Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mmerííái Cyf. V. IONAWR, 1889. Rhif 49. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN T PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XLIX. " Ac efe a ddaetli ac a bregethocld dangnefedd i chwi y rhai pell, ac i'r rhaí agos."—Eph. ii. 17. Y MAE y gair dyfod yn un o'r geiriau na phriodolir yn un man j^n y Testament Newydd i Dduw o ran hanfod, ond a briodolir yn fynych i bob un o'r personau dwyfol. Y mae Duw yn bod ymhob' man fel na all fyned na dyfod i'r un man. Y mae Duw yn rhy fawr i ddyfod o ran hanfod ; ond fe briodolir dyfod i bob un o'r personau dwyfol o ran gwaith. Fe'i priodolir yn yr Hen Desta- ment i'r Mab, pan y dywedir fod " Gair yr Arglwydd " wedi dyfod at un o'r proffwydi; yn y Newydd, pan y dywedir "ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid," " mi a ddaethum fel y caent. fywyd," " Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid,'" ac mewn amrywiol fanau eraill. Fe'i priodolir i'r Ýsbryd,—" pan ddel, efe.a argyhoedda y byd," " pan ddel y Diddanydd," " pan ddel Efe, sef Ysbryd y gwiriouedd," &c. Fe'i priodolir i'r Tad, " Ni a ddeuwn ato ac a wnawn ein trigfa gydag ef." Felly, er fod yn anmhosibl i Dduw ddyfod o ran ei hanfod, y mae pob un o'r personau dwyfol yn dyfod o ran eu gweithrediadau. Yn y gweithredoedd a briodolir iddynt yn unig y dywedir eu bod yn dyfod. Yma, dywedir fod y Mab yn dyfod i bregethu efengyl y tangnefedd i'r byd. Felly, y mae yr adnod hon yn dwyn gwirionedd ychwanegol fr amlwg, er mwyn dangos fod breintiau a bendithion yr efengyL i'r byd, ac nid i un genedl neillduol. Y mae Crist yu gyntaf yn dangnefedd, " Efe yw ein tangnefedd ni." Y mae felly yn ei Berson ei hun yn sail tangnefedd rhwng byd o ddynion a Duw, ac nid rhwng un genedl ag ef. Yn ail, fe wnaeth dangnefedd rhwng y byd a Duw ; yna, y mae yn creu y ddau yn un, ac yn cymodi y ddau â Duw, heb ffafr i un uwchlaw y lla.ll. Nid oes mantais na rhagoriaeth i un genedl uwchlaw un aratì ì'w cymodi yn yr Iesu.