Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jlaám^ttdi Cyf. VI. MEHEFÍN, 1890. Rhif 66. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN T PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF L X V I. " Yn ol yr arfaeth dragwyddol, yr hon a wnaeth efe yn Nghrist Iesu ein Harglwydd."—Eph. iii. 11. Oddiwrth y geiriau gellir tynu tri o gasgliadau,— 1. Y mae holl anhawsderau y biwẁd, %r un graddau yn anhawsderau yn ei waith hefyd.—Nid yr anhawsder yw fod Duw yn bwriadu. Os yw pob achos am bob effaith niewn pethau a elwir yn ddeddfau natur, nid oes rheswm son am fwriad; ond os oes Bod personol uwchlaw pob deddf naturiol, yr hwn a'u gwnaeth ac sydd yn gweithredu trwyddynt, yr hwn sydd ya dragwyddol a pherffaith, yr ydym dan rwymau i gredu ei fod wedi bwriadu yr hyn oll a wna. Fe fyddai meddwl am Dduw hollwybodol yn gweithio yn ol damwain, ac un hollalluog yn creu dan ddylanwad amgylchiadau, yn anghyson hollol â'i briodoliaethau naturiol a moesol. Ni byddai yn Dduw felly. Nid oes yr un dyn nad ydyw yn bwriadu; a phe gwelid calon heb fwriadau lawer, byddai lle cryf i ameu ai calon dyn a fyddai. Nid yr anhawsder y w dirnad fod Duw yn bwriadu, ond dirnad paham y mae yn bwriadu fel hyn ac nid fel arall. Ond y mae yr un anhawsder i'r un graddau yn ei waith : paham y mae yn gwneuthur fel hyn ac nid fel arall; o fyrdd o ffyrdd a allasai gymeryd, paham y mae yn cymeryd y ffordd hon, ac nid y lleill. Y mae yr anhawsder nìd yn nhra- gwyddoldeb ond yn Nuw ei hun, ac y mae i'r un graddau yn Nuw pan yn gweithio mewn amser a phan yn bwriadu cyn seiliad y byd. Yr anhawsder yw i ni ddeall, Paham fel hyn neu fel arall. Am hyny nid yw y"gwirionedd am fwriad Duw yn rhoddi bod i'r ufl