Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

latarÄ Cyf. X. MEDI, 1891 Rhif 117. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Oan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca. RHIF CXIII. "Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni." Eph. IV. 31. Y MAE yr Apostol yn yr adnodau hyn yn dwyu gwirioneddau uchaf yr efengyl fel cymhelliad i ddynion i feithrin teimladau priodol tuag at eu gilydd. Y mae y teimladau a waherddir yn cael eu rhanu yn ddau ddosbarth mawr. Y mae y gair " pob " yn dangos pa rai ydynt,—" pob chwerwedd," &c, a " phob drygioni." Ac os edrychwn i fewn i'r galon. ni a welwn y ddau. Y mae un math yn chwerwedd yn y dymer ; ac fel y mae dwfr chwerw yn anghyd- naws âg archwaeth y genau—yn cynhyrfu yr holl natur mewn gwrthwynebiad iddo, felly y mae tymer chwerw, yn dymer ddiff- ygiol mewn cydnawsedd â dynion eraill, yn amddifad o'r cydym- deimlad priodol â'r ddynoliaeth, yn wrthwynebol i eraill fel Ismael, ac yn temtio eraill i'w wrthwynebu yntau. Y mae llawer dyn yn gwenieithio iddo ei hun ei fod yn hallt yn erbyn pechod, tra y gwirionedd yw mai chwerw ydyw ^yn erbyn dynion. Ac am hyny, dylai wrido raewii edifeirwch a chywilydd, oblegid yr hyn yr ym- ffrostia ynddo. Y math arall ydyw drygioni yn yr ystyr o falais yn y galon. Nid pechod a feddylir yma wrth ddrygioni, ond y gwrthwyneb i gariad a thosturi. Y mae yn bosibl i ddyn feddu ar dymer chwerw, ac eto fod daioni a thynerwch yn ngwaelodion ei galon. Fel o'r ochr arall y mae yn bosibl i ddyn feddu ar dymer ddá, anhawdd ei chyffroi, ac eto feddu ar galon galed a chreulawn. Ac y mae creulondeb gwaedlyd dynion mwynaidd eu tymer yn beth gwybodus i'r byd. Tyner oddiwrthych bob un o'r ddau, pob chwérwedd o'r dymer, a phob caledwch drygionus o'r galon.