Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf XVIII.] IONAWR, 1902. [Ehif 2UÔ. ^ YR YSGOL SABBOTHOL AT GWAITH YN Y GORPHENOL, PRESENOL, A'R DYFODOL* Y mae y testyn yn un eang iawn ac yn ein gwahodd i daflu ein golwg yn ol dros ysbaid o gan' mlynedd ac ychwaneg, ac hefyd edrych ymlaen i'r dyfodol ag y mae cymaint o dywyllwch ac ansicrwydd yn perthyn iddo. Bwriadaf gymeryd cipdrem frysiog i'r ddau gyfeiriad y mae y testyn yn cyfeirio atynt. Sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru oddeutu 115 o flynydd- oedd yn ol, ac i Mr. Charles o'r Bala y perthyn yr anrhydedd o roddi -cycliw}Tniad iddi. Yr oedd y diwygiad Methodistaidd wedi cychwyn dros haner cant o fljmyddoedd cyn yr Ysgol Sabbothol, ac er fod y tadau fu yn arwain gyda'r diwygiad wedi marw, yr oedd y diwygiad yn aros a gweinidogaeth nerthol ac argyhoeddiadol yn parhau yn Nghymru. Gwelodd Mr. Charles, yr hwn oedd yn adnabod Cymru yn dda, fod llawer iawn o'r rhai a ddychwelwyd trwy y diwygiad yn hynod o anwybodus} a bod rhanau helaeth o'r wlad heb eu cyffwrdd gan y diwygiad, lle y ffynai llawer o anwybodaeth, ofergoeledd ac an- nuwioldeb. I gyfarfod ag amgylchiadau felly dechreuodd ailgyfodi yr ysgolion cylchynol, ysgolion lle y byddai ysgolfeistriaid cyflogedig am dymor o chwech i naw mis yn dysgu trigolion cymydogaethau neillduol i ddarllen yr iaith Gymraeg; ond tua'r flwyddyn 1787 cym- erodd gam pellach trwy gychwyn y gwaith o addysgu ar y Sabbath. Cyfarfyddodd ag anhawsderau pwysig ar y cychwyn. Yr oedd yn anhawdd cael rhai galluog a pharod i addysgu, ac anhawdd hefyd i gael rhai parod i dderbyn yr addysg. Yr oedd yn cyfeirio yr addysg at bob oedran, rhyw, gradd, a chymeriad, y rhai ag oedd eisoes wedi eu dychwelyd er mwyn trwy yr addysg eu cadarnhau yn y ffydd; a'r rhai nad oeddent wedi eu dychwelyd, er mwyn trwy yr addysg, i gynorth- wyo y weinidogaeth i symud y tywyllwch a'r ofergoeledd a'r annuwiol- deb a ffyna yn eu plith. O angenrheidrwydd, yr oedd yn rhaid gyda symudiad o'r fath i ddechreu yn y dechreuad; ac yn gyntaf oll, ceisio dysgu trigolion Cymru i ddarllen—i adnabod llythyrenau y wyddor, a'u seinio—yna i sillebu a seinìo y geiriau unsill a dwysill. Nid oedd 5 o bob cant a boblogaeth Cymru yn gallu darllen gair ar lyfr yr adeg yr wyf yn C3Tfeirio ati. Erbyn heddyw nid oes 5 y cant, heblaw babanod, yn an- * Crynhodeb o Anerchiad a draddodwyd yn Nghynhadledd yr Ysgol Sul yn Mhorth- madog, Awst 31, 1901, gan Mr. Evan Evans, Aberystwyth.