Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Î5 3Llaòmen>bö- Cyf XVIII.] EBRILL, 1902. [Rhif 208. URDDAS A CHYFRIFOLDEB SWYDD ATHRAW* GAN Y PARCH. R. HUMPHREYS, BONTNEWYDD. Y mae y mater y gofynir i mi siarad am ychydig arno yn un tra •eang a phwysig. Nis gwn am yr un niater yn dal perthynas a'r Ysgol Sul yn galw yn uwch am drafodaeth deilwng ar ddechreu y ganrif newydd. Yr ydym er's tro bellach yn clywed fod yr Ysgol Sul yn di- rywio, nid ymysg y Methodistiaid yn unig, nac yn Nghymru yn unig, ond ymysg enwadau eraill, ac mewn gwledydd eraill; a bod y diryw- iad hwnw yn dangos ei hun yn benaf mewn lleihad yn nifer ei haelod- au. Swnio yn brudd y mae y gair " dirywio " : awgryma achos yn myned i lawr i gyfeiriad marwolaeth. Yr ydym hefyd wedi clywed y gair mor fynych yn y cysylltiad hwn yn y blynyddoedd diweddaf nes y mae blas hen i'w glywed arno. Y mae yn bosibl i ni wneyd gormod o ddefnydd o'r gair wrth geisio diwygio yr Ysgol Sul. Gallwn gael addysg dda wrth edrych ar ddull meddyg medrus a doeth gyda chlaf pryderus ac ofnus. Nid yw yn cyffwrdd ond mor ysgafn ag y gall yn ochr dywyll ei aohos, ond edrycha yn siriol yn ei wyneb, a dywed wrtho am gymeryd caîon, ac ymladd yn ddewr a'i salwch, gan ei sicrhau y bydd iddo yntau roddi pob cynorthwy iddo 3m y frwydr. Y mae adeg cwynfan uwch ben cyíìwr yr Ysgol Sul wedi pasio, ac hwyrach ei fod wedi para yn rhy hir. Y mae ein gwaredigaeth i ddod trwy alw allan ein holl adnoddau, ac ymladd yn wrol a'n holl anhaws- derau nes gweled yr hen sefydliad a anwylir mor fawr genym wedi ad- enill y nerth a gollodd, a dyfod yn allu cryfach nag y bu erioed. Per- thyna y rhan bwysicaf o'r gwaith hwn i'r athrawon. Hwy -sydd ar üaen y fyddin. Y mae llwyddiant pob vsgol, fydol a chrefyddol, yn dibynu ar pwy, a pha fath rai yw eu hathrawon. Pan y mae rhieni yn ymholi am ysgol i'w plant, yr ymofyniad pwysicaf ganddynt yw, ymha le y mae yr athrawon goreu? Nid yn anfynych y byddwn yn clywed am blant yn cael eu symud o un ysgol i un araíl am yr unig reswm fod gwell athrawon yn un nag yn y llall. Y mae dyfodol ein gwlad yn nwylaw ei hathrawon. Y mae rhyw arwyddion y d)rddiaii presenol fod hyn yn cael ei sylweddoli, nid yn unig gan y cyhoedd yn gyffredinol, ond hefyd gan yr athrawon eu hunain, a'u bod yn syl- weddoli mawredd y cyfrifoldeb a orphwys arnynt. Ymysg nodwedd- íon da a gobeithiol yr oes, nid oes yr un fwy addawol na'r ymweithiad * Orynhodeb o Anerchiad diaddodwyd ŷn Nghynhadledd yr Ysgol Sab- bothol, gynhaliwyd yn Porthmadlog.