Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

33 3Üaòmen>òò* Cyf XVIII.] HYDREF, 1902. [Rhif 214-. GWEINIDOGAETH MWY RHAGOROL.* GAN Y DIWEDDAR DR. CHARLES EDWARDS. " Ond yn awr efe a gafodd weinidogactli tnwy rhagorol, o gymaint ug y mae yn Gyfiyngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd %vedi ei osod ar addewidion gwell."— He.B. vuj. 6. "" Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol,"—hyny ydyw, na gweinidogaeth yr archoffeiriad dan yr hen gyfamod. Nid at weiu- idogaeth yr efengyl tnag at y byd mae yr adnod yn cyfeirio, ac nid • chwaith at weinidogaeth Iesu Grist fel proffwyd yn ei eglwys, ond at ei weinidogaeth a gweinyddiad ei swydd íel Archoffeiriad dros ei eglwj's, yn y nefoedd. " Efe," sef Iesu Grist, " a gafodd weinidog- aeth fel archoffeiriad yn y nefoedd, mwy rhagorol na gweinidogaeth yr archoffeiriad ar y ddaear." Mae yn eglui* mai dyna yr ystyr oddi- wrth y ddwy adnod gyntaf yn y benod, " A phen ar y pethau a ddy- wedwyd yw hyn,"—" swm y pethau a ddywedwyd " ar ymyl y ddalen. Swm. y pethau a ddywedwyd yw hyn; swm a svlwedd yr epistol at yr Hebreaid p hyn, " y mae genym "—yr yd)in wedi colli llawer— yr ydym ni, Hebreaid, wedi colli ein gvvlad a cholli yr hen oruchwyliaeth; ac y mae yr eryrod eisioes yn ymgasglu rO amgylch y gelain, ac }nnhen ychydig iawn o fiynvdd- oedd eto fe fydd y Rhufeiniaid yn gwarchae ar y ddinas ;sanctaidd ei hun ac yn llosgi y tŷ sanctaidd a thân, a gwaed y trigolion yn rhedeg yn goch ar hyd ffosydd yr ystrydoedd; yr ydym wedi colli bron bobpeth. Yn wir, amcan yr epistol at yr Hebreaid ydyw dweyd wrth ddynion betli sydd ganddynt wedi colli pobpeth, ca-lonogi dynion ^dd wedi colli pobpeth—"y mae genym." "Y mae genym y fath Archoffeiriad," wedi colli ein gwlad, y mae genym y fath Archoffeiriad; wedi colli Jerusalem, y mae genym y fath Archoffeiriad; wedi colli y deml y mae genym y fath Archo- ffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw y mawredd yn y nef- oedd, ar ddeheulaw gorseddfainc y mawredd yn y nefoedd, lle ni ddaw na. gwyfyn na rhwd i lygru, lle nis cloddia lìadron trwodd ac nis Uadratanfc. Y mae ein trysor bellach yn y nefoedd, uwchlaw • cyraedd y gelynion. " Y mae genym y fath Àrchoffeiriad yn y nefoedd, yn weinidog y gystegrfa," sef y nefoedd, a'r gwir dabernacl, "* Nodiadau o bregeth a draddodwy^d yn nghapel y M.C Higher Ardwiclc, Manchester, nos Wener y Groglith, Ebrill 8fed, 1887.