Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

îi? ÜLlaòmet^ẃò. Gyf XVIII.] RHAGFYR, 1902. [Rhif 216. FFYDD ABRAHAM* " Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe i'w dderbyn yn ctifeddiaeth • ac a aeth allany heb wybod i ba le yr oedd yn myned."—Heb. xi. 8. Gelwir Abraham yn '' dad y ffyddloniaid,*'—tad y rhai sydd yn credu, nid yn unig am mai efe oedd pen y genedl oedd yn derbyn y datguddiedigaethau dwyfol,—" y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am, ymadroddion Duw," ond yn dad pawb ymhob oes ac ymhob gwlad, ac ymhob cenedl sydd yn medru ar y peth hwn—credu,—tad y rhai sydd yn credu. Yr oedd credinwyr o flaen Abraham,—" tryry ffydd, Abel;trwy ffydd, Enoch; trwy ffydd, Noe;" ond nid Abel, ac nid Enoch, ac nid Noe, ydyw tad y rhai sydd yn credu. Mae yn eglur, gan hyny, fod rhyw elfen newydd yn dyfod i'r golwg yn ffydd Abra- ham ag sydd yn ei osod ar ei ben ei hun yn nghanol credinwyr yr Hen Destament, ae yn sicr yn gosod mawredd ar Abraham na feddai neb mohono o'r blaen. Ein hamcan heddyw fvdd ceisio cael gafael ar y peth hwnw sydd yn rhagori yn ffydd Abràham, y peth s}-dd yn Abraham yn ei osod yn dad y rhai sydd yn credu/ac yn esiampl neillduol i ni. Yn awr y mae yn holloí eglur wrth ddarllen y benod hon fod ffydd Abraham yn cynwys pobi>eth oedd yn ffydd y lleill. Os oedd Abel yn oftrymu, yr ottáá /\bratiau) yn offrymu, trwy ffydd ; os oedd Eiioch yn rhodio gyda Duw, yr oedd Abraham yn rhodio gyda Duw hefyd, trwy ffydd; os' oedd Noe yn ufudd- hau i ddarparu Arch, yr oedd Abraham yn ufuddhau i alwad Duw, trwy ffydd. Ac felly nis gellir gwneyd dim yn well, er mwyn eglurder, na chymeryd y tri pheth sydd yn neiill- duoli ffydd Abel, ac Enoch, a Noe er ceisio edrych beth sydd yn ffydd Abraham yn y pethau hyny yn ymgodi yn uwch na hwynt oll. Os nad wyf yn ca.mgymeryd, dyna fel y mae yr Apostol yn y benod hon yn tiic y pwnc—cymhaim ffydd Abraham a ffydd Noe i ddechreu, myn'd ymlaen i gymharu ffydd Abraham a ffydd Enoch, ac yn y lle * Nodiadau oi bregeth a draddodwyd gan y Diweddar Brifathraw Thomasi öharles Edwards, D.D., yn nghapel Princes Road, Liver- pool, Sulgwyn Mai 24ain, 1885.