Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ctíehs III.—Rhif 11.—Awst, 1883. CYFAILL • YE • AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jtjles Yerne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd," gan Alltud Gwent.) Sylw.—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn,- yn nghyd a'r darlunlau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. îiampson Low & Co , 188, Fleet street.] Penod XVIII.—Ar y Daith. ETH y kibitka yn mlaen ; nid oedd Nicholas yn defnyddio y chwip, nac yn gyru yn gyflym. Teimlai Michael yn ddiolchgar fod Nadia ac yntau yn cael arbed lludded y daith, er nad oeddynt yn teithio yn gyflymach na chynt. Yr oedd Nadia mor flinedig fel y syrthiodd i drwmgwsg yn fuan wedi myned i'r kibiika, a gosodwyd hi i orwedd ar y gwellt mor gysurus ag oedd modd. Cydymdeimlai ei chydyuaaith yn ddwfn wrth ganfod mor Uuddedig ydoedd, ac mor drwm y cysgai, ond ni allai golli deigryn, ymddangosai fod ei ffynonell wedi cael ei sychu gan y dur cochboeth. " Mae hi'n eneth dlos iawn," ebe Nicholas tra yn syllu arni. "Ÿdyw,"atebaiMichaeL " Mae rhai bach anwyl fel yma yn ymdrechu bod yn gryf, maeut yn ddigon gwrol, ond gwan ydynt wedi'r cyfan ! A ddaethoch chwi o bell ?" " Do, yn mhell iawn." " Druan o honoch ! Rhaid fod eich poen yn ddirfawr pan losgasant eich llygaid." " Ydoedd," atebai Michael, gan droi at Nicholas fel pe byddai yn ei weled. " Onid oeddych yn wylo V "Oeddwn." "Buaswn inau'n wylo hefyd. I feddwl na chawn byth mwy weled y rhai sydd anwyl genym. Ond gallant hwy eich gweled chwi, mae hyny yn rhyw gysur !" "Ydyw, fe allai ei fod. Ond dywedwch wTthyf, fy nghyfaill, a ydych wedi fy ngweled o'r blaen V "Eich gweled chwi, fy nhad bach. Naddo erioed." " Tybiaf fy mod wedi clywed eich llais o'r blaen yn rhywle !" " Beth!" meddai Nicholas dan wenu, " mae yn adwaen fy llais ! Fe allai eich bod yn dweyd hynyna er mwyn cael gwybod o b'le 'rwy'n dod. Wel! mi dd'wedaí wrthych. 0 Kolyvan." "0 Kolyvan?" ebe Michael. "Dyna lle gwelais i chwi ynte : yr oeddych yn swyddfa'r" pellebyr." " Oeddwn: dan fy ngofal i yr oedd y pellebyr." "Ac fe arosasoch yn eich lle hyd y fynyd olaff' " Onid dyna'r adeg y dylai pawb fod yn eu lie?' " Y diwrnod hwnw yr oedd Sais a Ffrancwr yn ymryson am y lle wrth y counter, ac fe bellebrodd y Sais ddarnau o farddoniaeth, er mwyn cadw'r offeryn yn ei feddiant." " Dichon hyny, fy nhad bach ; ond nid wyf yn cofio dim am hyny." " Beth ! ddim yn ei gofio V " Ni fyddwn byth yn darllen y pellebrau a anfonwn. Gan mai fy nyledswydd oedd eu hanghofio, y ffordd oreu i hyny oedd peidio eu gwybod o gwbl." Dengys yr atebiad hwn gymeriad Nicholas. Yn y cyfamser yr oedd y cerbyd yn myned yn mlaen, yn rhy araf i foddhau y negesydd. Teithient ddwy awr, a gorphwysent un awr, trwy y dydd a'r nos. Yr oedd digon o fwyd yn y kibitka am dair wythnos, a chymheUodd Nicholas y brawd a'r chwaer tybiedig i gyd- gyfranogi ag ef. Ar ol diwrnod o orphwys, yr oedd Nadia wedi adnewyddu ei nherth. Yn ystod y nos, dygwyddodd weithiau i Nicholas syrthio i gwsg tra yn gyru. Yna pe crpffid yn fanwl, gellid canfod Uaw Michael yn gafaelyd yn yr awenau, ac yn peri i'r ceffyl deithio yn gyfiymach. Pan ddeffroai Nicholas, syrthiai yr anifail drachefn i'w gyflymder arferol, ond er hyny yr oeddynt wedi enill rhai milldiroedd. Yr oedd y ŵlad oll wedi ei hanrheithio, a'r pentrefydd yn anghyfanedd. Ar yr 22ain o Awst cyrhaeddasant dref Al-chinsk, tua dau gant a haner o filldiroedd o Tomsk. Yr oedd ganddynt tua phedwar ugain milldir eto i gyr- haedd Krasuoiarsk. Yn ystod y chwe' niwrnod hyn, nid eedd un dygwyddiad o bwys wedi eu cyfarfod. Desgrifiai Nicholas a Nadia y gwa- hanol olygfeydd i Michael ar y daith. Un