Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÜYf. VII.-Rhif. 15.-Rhaqf? , 1887. CYFAILL • YR • AELW YD: O FARW YN FYW. GAN ALEXANDBR DUMAS. Cyfaddasiad arbenig i Gyfaill ye Aelwyd aan Alltud Gwent.) Penod XLIIL—Dialedd a Chosb. R deall yr byn y cyfeiriwyd ato yn niwedd y benod flaenorol, sef fod Ville- fort yn myned i ddedfrydu llofrudd i farwolaeth, rhaid i ni fyned yn ol, ychydig ddyddiau, i olrhain dygwyddiadau ereill a gym- erasant le yn Paris mewn cysylltiad â chymer- iadau ereill yn yr hanes hwn. Cofus gan y darllenydd fod Maâame Danglars a'i merch wedi galw i hysbysu teulu Villefort o'r dyweddiad agoshaol rhwng Eugenie Danglars a'r tywysog Andrea Cavalcanti, fel y galwai Danglaisef. Yr oedd y wledd ddyweddiadol wedi ei threfnu i gael ei chynal yn mhen tridiau, a gwahoddwyd nifer fawr o urddasolion y Brif- ddinas i anrhydeddu yr amgylchiad pwjsie, â'u presenoldeb. Yn eu plith yr oedd y Count Monte Cristo. Ceisiasai Andsea ganddo gyn- rychioli ei dad, Cavalcanti yr hynaf, ar yr am- gylchiad, ond gwrthododd wneyd hyny; eto, addawodd roddi ei bresenoldeb, ac arwyddo y cytuudeb fel un o'r tystion. Daeth y dydd, ac ymgynullodd llnaws o aristocratiaid y Brifddinas i'r wledd i dy Dang- lars. Darllenwyd y cytundeb priodasol yn nghanol y dystawrwydd mwyaf, allanwyd llawer o'r gwahoddedigion ieuainc,ag eiddigedd at ffawd dda y pâr ieuanc, wrth glywed enwi y symiau mawrion a nodid fel eu gwaddol, canys tystid fod ffortiwn y tywysop yn dair miliwn o ffrancs, a gwaddol Eugenie ar ddydd ei phriodas yn hauermiliwn, heblaw bod yn etifeddes i gyfoeth mawr yr arianydd. Wedi darllen y cytundeb, dywedodd y cyfreithiwr ei fod i gael ei lawnodi yn y drefn ganlynol,—y Barwn Danglars. Caval- canti yr hynaf, neu ei gynrychiolydd ; Madame Danglars, yna y pâr ieuanc, i gael eu dilyn gan nifer o dystion. Arwyddwyd y cytundeb gan Danglars, a boneddwr oedd wedi boddloni i gyn- rychioli Cavalcanti ; yna dynesodd Madame Danglars, gan bwyso ar fraich Madame Ville- fort. " Fy anwylyd," meddai wrth Danglars, "onid yw yn anffodus na chawn ewmni M. Villefort heno ì Dywed Madame Villefort ei fod wedi cael ei luddias gan ryw ddarganfyddiad newydd a wnaed yn nghylch llofruddiaeth yr ysbeilydd hwuw a dorodd i fewn i dy y Count Monte Cristo y dydd o'r blaen." " Aie, yn wir ?" ebe y Count; " Yr v yf yn ofni mai myfi, gan hyny, er yn anfwriadol, sydd wedi achosi ei absenoldeb." "Pa fodd mae hyny?" gofynai Madame Danglars. Gwrandawai pawb yn astud, tra y dywedai y Count,—" Yr ydych yn cofio i'r truan ddaeth i'm ysbeilio gael ei drywanu gan ei gydymaith pan yn ymadael, ac iddo farw ar ol cael ei gludo i'r ty." " Ydwyf," ebe Danglars, ac amryw ereill. " Wel, diosgwyd ei ddillad, er archwilio ei archoll, a thafiwyd hwynt i gongl o'r neilldu, lle y cafwyd hwynt wedi hyny gan swyddogion yr hedd, y rhai a'u dygasant ymaith ; ond rhyw- fodd neu gilydd, gadawyd ei wasgod ar ol yn y gongl." Gwelwodd Andrea with glywed hyn, a dechreuodd encilio yn raddol tua'r ystafell nesaf. " Heddyw," ychwanegai y Count, " darganfydd- wyd y wasgod yn y gongl, wedi ei gorchuddio â gwaed, a thwll yuddi uwchlaw y galon. Ni wyddai y gweision a'i morwynion beth oedd y cerpyn gwaedlyd, ond wrth ei archwiíio, cafodd y gwas nodyn yn uu o'r llogellau wedi ei gyfeirio atoch chwi, Barwn Danglars." " Ataf fi !" llefai Danglars, mewn'syndod, tra yr oedd syndod yn argrafledig ar wedd pawb yn bresenol. "Ie," atebai y Count; " gydag anhawsder y gellais ddarllen yr enw, trwy y gwaed oedd arno, ac anfonais y wasgod a'r nodyn i'r Erlynydd Cyhoeddus, am y gallent fod yn dystiolaeth bwysig i dd'od o hyd i'rllofrudd." Gwelwodd Andrea drachefn, a diflanodd i'r ystafell agosaf, yr hon oedd yn wag. Aeth trwyddi i'r ystafell arall. "Onid alltud wedi ei gondemnio oedd y ty- dorwr a lofruddiwyd ?' gofynai DanglarB. "Ie, dyn o'r enw Caderousse," atebai y Count. Gwelwocld Danglars wrth glywed yr enw hwn, ac ychwanegodd Moute Cristo,—" Ond peidiwch gadael i mi eich rhwystro ; ewch yn mlaen i lawnodi y cytundeb. Arwyddodd y Farwnes ei henw, a rhoddodd y pin yn ol i'r cyfreithiwr, yr hwn ddywedodd,—" Y Tywysog Cavalcanti yn nesaf." " Pa le y mae y tywysog? Andrea ! Andrea !" llefai ei gyfeiHion. Ond nid oedd neb yn ateb. Yn nghanol y syndod a'r cythrwfl a ddilynodd