Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ctv. XII.-Khiv. 11.—TaCHWEDD, 1891. CYVAILL YR AELWYD: CLADDU'R MARW. DADL I CHWECH 0 BERSONAU. Gan y Parch. Silyn Evans, Aberdare. CÍMERIADAU. Mr. Jones. Mrs. Roberts. Nain o'r Wlacl. Taid o'r Wlad. Miss Ilughes. Dafydd Hopcyn. Naiu Mrs. Roberts. Taid Mrs Roberts. Cyfeilles Mrs. Roberts. Labrwr. CLADDU'R MARW. Mr. Jones.—Dydd da i chwi, Mrs. Roberts. Llawen genyf eich cyfarfod. Dowch i mi i weled-----ie, ai e:ch taid a'ch nain sydd geDych ! Ie hefyd. Sut yr ydych, ddau auwyl ? Mae'n dda genyf eich gwe!ed, pe ond ar gyfrif fy adnabyddiaeth o'ch wyres, Mrs. Roberts. Mrs. Roberts.—Onid yw delw'r wlad arnynt yn eu gwisg, a'u hiaitb, a'u gwedd, Mr. Jones ? Pwy fel pobl y wlad atn fochau cochion a byw yn hen ? Enw y foneddiges hon sydd genyf yw Miss Hughes. Merch ieuanc o Lundain ydyw, ac mae yn GyrjGraes o âch £c o gred hefyd, Mr. Jones. Mr. Jones.—0, yn wir ; weîe gyd-gyfarfydd- iad o'r wlad, a'r dref, a'r ddinas, ynte. Mrs. Roberte. Sut yr y'ch chwi, Miss Hughes 1 Gad- ewch i mi eìch llongyfarch am eich tfyddlondeb i iaith eich mam. Sut mae'r hen bobl yn dy- gymod a'r dref, Mrs. Roberts 1 Mrs. Roberts.—Buasech yn synu eu clywed yn siarad am danom, Mr. Jones. Credant i fod y byd i gyd ar gam genym. Gwelsant gynheb- rwng y prydnawn yma, a thystiant yn ddifriful nas gallasai i fod yn gladdu'r maiw o gwbl. Nain o'r Wlad.—Dau beth sydd yn synu Shon a minau yn y lle hwn yw gweled plant crynion â phibelli yn eu genau yn ysmocio ar ddydd goleu, a gweled lodesi yn troi eu gwallt fel pe newydd ddod o'r carchar ; a'u gweled yn cario ffyn yn eu llaw fel pe yn helwyr llwyncg neu yn borthtnyn mocb. 'Dyw Shon a minau ddim yn credu fod y byd yn ei le fel yma, Mister Jones. Taid o'r Wlad.—Beth sydd ar y glaslanciau a'r lodesi, dywedwch ì Ai yu falch ynte yn wirion y maent ? A oes rhieni iddynt i edrych ar eu hol ? A ydynt yn perthyn i'r wlad hon, dywedwch ? Y gwir yw, Mister Jones, nid yn llaw y ladìsau yua y dylasai y ffyn i fod. Aç am yr hyn a welwn heddyw, Syr, mae Malen a minau yn methu yn lân a'i gael yn gladdu y marw. Mr. Jones.—-Ffasiwn, ffasiwD, taid a nain bach. Chwi a wyddoch i fod oesau a lleoedd yn newid yn fawr yn eu diwyg a'u haifer cymdeith- asol. Y maei drafod gwallt a chladdu'r marw eu ffasiynau, yn ateb adegau a macau. Onid oes ef, nain ? Nain o'eWlad.—Yr oedd Shon a minau yn meddwl arn y ffasiwn, yn wir i chwi; ond os mai elch ffasiwn chwi yma o gladdu ydoedd yr hyn a welsom ni hedd>wr, gweìl fuasai i chwi i newid yr euw i fuss a swn. Taid o'r Wlad.—Ac os mai ffasiwn ydyw, Mister Jones, pa eisiau iddo i newid o g^bl ? Yr un yw ffasiwa yr haul i roi goleu, a'r cymylau i roi gwlaw o hyd. Ai pethau bach sydd yn newid eu ffasiwn, dywedwch ? Ac os oes raid ei newid, p'am na newidid ef am ei well ? Ai gwell ydyw i hogiau i gario cetynau yn eu cegau, ac i lodesi i gario ffyn yn eu llaw ? Yn wir, buasai yn well gan Malen a minau i weled caib a rhaw yn eu llaw. Miss Hüghes.—Chwi a wyddocb, taid, i fod y Beibl yn dywedyd, "Gochelwch gwa ;'' ac fe allai mai boneddigesau ofnus o gwn yw y rhai sydd yn cario ffyn. Maent yn wranach na merched y wlad, naia. Nain o'iì Wlad. —Os ydyw'r cwn yn rhedeg ac yn cyfarth ar eu hol, rhaid i fod rhywbeth o*i le ynddynt, oblegid ti wyddost yn burion, Shon, nad yw cwn yn cyfarth ar neb ond y rhai sydd a rhywbeth annaturiol ynddynt. Taid o'r Wlad.—A chydagolwgar y bethma hwnw, Marged, a welodd Malen a minau heddyw—yr angladd hwnw, meddet ti, Marged —wel, yn wir, yr oedd yr olwg a gawsom ni eia dau arno yn debycach i briodas nag i angladd. Nain o'r Wlad.— A chofiwch chwi, Mister Jones, er fod Shon a minau dros driugain a deg, mae ein golygou, diolch i'r Mawredd, yn iach a dianaf. Mr. Jones— Weì, taid a nain bach, beth a welsoch chwi, ynte ? Tebyg i ba beth ydoedd ? Mi garwn, yn siwr, i gael eiuh barn arno. Taid o'r Wlad.—Yr oeddMalen aminau yn edrych arno yn debyg iawn i orymdaith votio yn y wlad, a cherbyd y gwr boneddig yn y canol yn cario ei ffryns gan ddau geffyl. Dafydd Hopcyn.—Ho, ho, dyna amhsuthyn i wr boneddig o'r dref, ac i ferch ieuanc o'r ddinas, ac i wraig yn broselyt o'r wlad i'r dref, i gael cyfarfod â taid a nain. A sut yr ydych chwi, bob un o honoch ì A gaiff labrwr fel myfì ran yn eich ysgwrs, dywedwch ? Mk. Jones.—Dafydd bach ! Beth feddyliech