Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA F PLÁNT. 121 gweddi, ond holi cwestiynau. Gwel adn. 19. Ni fydd anghen holi cwestiynau y pryd hwnw. Ac hyd nes daw yr amser hwnw, " Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, efe a'i rhydd i chwi." "Yn fy enw." 1. Gofyn i'r Tad yn y Mab. "Mae y Tad ynof fi." Crist yw pabell ein cyfarfod ni â Duw. 2. Oymeryd enw Crist fel dadl ger bron Daw am ba beth bynag fydd eisieu arnom. Ada. 28. Hyn yw swm y cwbl a glybuwyd. Dyma yr hyn a wasgai yr lesu ar ei ddysgybìion bob amser; o ba le y daeth ac i ba le yr oedd yn myned. Alpha ac Ómega dirgeiwch duwioldeb (î Tim. iii. 16), fod Crist ar ei ddyfodiad yma yn Dduw wedi ymddangos yn y cnawd, ac ar ei fynediad ymaith wedi ei dderbyn i fyny i ogoniant. - - -^&Aj^r*------- WILLIAMS ABEETAWY A HOWELLS TBEFECCA. JB ydym yn dyfynu y tameidiau canlynol at wasanaeth ein darllenwyr ieuainc allaa o erthygl ragorol iawn gan y Parch. William AYilliams, Abertawy, ar y diweddar Barch. William Howells, Trefecca, yn y Traethodydd am fis Mawrth diweddaf. DAFYDD HOWELLS A R0WLAND HILL. Aeth Dafydd Howell, tad Mr. Howells, Trefecca, i Lundain i weled ei frawd, y Parch. William Howells, Longacre. Daeth yno i gyffyrddiad ac i gyfeiilgarwch â'r Parch. Bowland Hill. Aeth gydag ef yn ei gerbyd i amryw fanau. Un diwrnod dy- wedodd Mr. Hill wrtno, " Yr wyf yn myned i'ch eymeryd y prydnawn yma, Mr. Howells, i weled boneddiges urddasol (grand lady), os byddwch yn íoddlon i ddyfod." Yr oedd Mr. Howells ynberífaith foddlon, aphan ddaeth yr amser cychwyn- asant. Safodd y cerbyd o flaen tý bychan a thlodaidd, a synai Mr. Howells fod grand lady yn preswylio yn y fath le. Cur- odd Mr. Hill wrth y drws, a daetL hen wreigan dlawd yr olwg arni i agoryd ; a meddai Mr. Hill wrthi, " Yr wyf wedi dyfod á brawd Cymreig i'ch gweled, Betty, ac yr ydym yn myned i aros gyda chwi i dê. Ewch i fyny i'r llofi't, newidiwcn eich cap, rhoddwch ffedog lân am danoch, a gwnewch yn barod i ni." Diflanodd yr hen wraig i fyny y grisiau, a chan gynted ag yr aeth o'r goiwg, dyna Mr. Hilì yn agor y cwpbwrdd, ac yn tatiu i mewn iddo o'i logellau mawrion ddigon o bob darpariaeth ar gyfer y tê, a thros ben. Yn fuan daeth Betty i waered, huhodd y bwrdd, ac eisteddwyd wrtho, a chafwyd tê rhagorol a aociety fendigedig. WILLIAM HOWELLS YN FACHGEN. Y mae y dystiolaeth ganlynol yn fyr, ond yn fawr, ac yn