Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Ehif. I.] IONAWE, 1862. [ẄP. I. GAIR AT Y PLANT. fr Anwtl Gyfeillion,—Gan fy mod yn ymwelydd dyeithr, .., ac na welsoch fy wyneb o'r blaen, mae yn iawn i mi adrodd fy neges wrthych. Gwnaf hyny mewn chwech o henau. 1. Dysgu gwirioneddau i chwi o'r Bibl, ac am y Bibl, mewn ffordd mor syml ac eglur ag y gallwyf. 2. Gosod eich traed ar ben y ffordd at wahanol gangenau gwybodaeth gyffredinoL 3. Rhoddi hanesion byr, a chryno, i chwi am sefydliadau, dy- feisiau, a dynion enwog, fel y byddo genych ryw syniad am bob peth, a phob dyn, y clywsoch lawer o son am danynt. 4. Rhoddi hanes ymddygiadau dewr, rhinweddol, a duwioL mewn plant, er mwyn eich cyffroi chwithau i ymddygiadau cyffelyb. 5. Adrodd ystorîau difyr a phert wrthych, er mwyn tynu eich bryd at ddarllen, fel y deloeh yn ddarllenwyr da, ac yn hoff o lyfraiL 6. Egruraf lawer o'm gwersi i chwi â'r darluniau gorea áüaf gaeL fel y byddo yn hawddach i chwi eu deall a'u cofio.