Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BRASLUNIAU. RHIP IV. 3 gwrthddrych y braslun hwn ynuno brìf ddynion y cyf- ìdeb Methodistaidd, ac \ fAE^ undeb Methodistaidd, ac wedi bod felly am lawer o flyn- . yddoedd bellach. Yr ydym yn cofio yn dda y tró cyntaf y gwelsom ef, a'r argraff hynod a gafodd ei olwg arnom. Ugain neu ychwaneg o flynyddoedd yn ol, yn nghanol gwres mis Awst, er nad oeddem ar y pryd ond llencyn ieuanc, anturiasom groesi hanner can' milldir o fynyddoedd cribog i fyned i Sasiwn fawr Llangeitho. Wedi cyrhaedd Llanddewibrefi, clywsom fod Mr. ■----■ yn pregethu y noson hono (y nos cyn y Sasiwn) yn Nhre- garon. Ymaith â ni, yn flin a lluddedig, ond yn llawn awyddfryd am wrando y gŵr nodedig. Yr oedd amser yr oedfa .wedi cyr- haedd ymhell cyn i ni gyrhaedd yno; y capel yn orlawn, y dydd yn hwyrhâu, a chysgodau y nos yn disgyn yn brysur. Wedi ym- wtBiö i'r drws, gwelem y pregethwr yn y pulpud gyferbyn â ni, ymhen arall y capel. Yr oedd eisoes wedi dechreu pregethu. Dyn tàl, golygus, a hoew, mewn dillad duón, a chadach gwỳn am ei wddf. Wyneb goleu a chrwn, talcen uchel, moel, a gwallt gwỳn teneu, wedi ei droi yn y gwrthwyneb gan ymyriad aným- wybodol ei law. Aeliau trymion yn bargodi dros ddau lygad du, { trôiddgar, a sirioL Prif hynodrwydd y wyneb yw y llygad a'r ael. \