Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. CX.] CHWEFROR, 1871. [Ctf. X. TAD YR YSGOL SAEBOTHOL. ' OBERT RAIEES o Gaerloew a ystyrir yn dad yr Ysgol Sabbotliol, a bydd yn dda gan ein darllenwyr ieuainc gael ei ddarlun. Ganed ef yn Nghaerìoew yn y flwyddyn 1735, a bu farw yn y fìwyddyn 1811, yn 76ain mlwydd oed. Mab ydoedd i argraffydcl o'r lle uchod, a chafodd yntau ei godi i fyny yn yr un alwedigaeth. Ennillodd ffortun yn ei fasnach, a gwariodd hi gyda'r gwaith bendigedig o addysgu tlodion ei clref. Gall y darllenydd gael braslun o hanes y modd y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol yn y gyfrol gyntaf o Drt- Sorfa Y Plant. Talai ef i'r neb a gaffai yn gymhwys am addysgu plant tlodion, a phreswylwyr y carchar, ar y Sabbath. Y cwbî a ofynai gan yr ysgoleigion'oedd "dwylaw glân, gwynebau glan, a'r gwallt wèdi ei aribo." Bu Ihwddiant rheííorol ar ei waith.