Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif. CXVI.J AWST, 1871. [Ctp. X. GOLDFINCH. NW Saesoneg yw Goldfinch; nid oes enw Cymraeg arferedig ar yr aderyn bach prydferth hwn. Yn y Geiriadur rhoddir arno yr enwau, eurbinc, peneur- yn, eurlinos, gwas y seiri, &c Mae eurbinc yn air bach taclus a naturiol arno; ac er nas gwyddom ei íbd yn cael ei arfer, yr ydym yn ddigon boddla wn i bawb ei alw o hyn allan ar yr enw hwn. Mor brydí'erth a dedwydd yw yr adar bach yn nghanol y coed a'r blodau. Dacwun yn eistedd ar y nŷth, a'r Uall yn cânu ar y brigyn i'w ddifyru. Byddai yn dda i blant ddangos eymaint o ofal am gysuro eu gilydd ag y mae adar bach yn ddangos. Mae y plant yn adnabod y Goldfinch. Mae tua phum' modfedd