Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhip. CXXXII.] RHAGFYR, 1872. [Cyp. XL YSGYFARNOG. 'AE y plant oll yn adnabod yr ysgyfarnog, ond y mae Llawer o bethau hynod yn perthyn iddi nad oes nemawr o honoch yn eu gwybod. Am ychydig o bellder y mae y crëadur cyflymaf yn y byd ; ond y mae yn gwario ei nerth yn gyflym. Nid oes yr un crëadur arall yn cael cymaint o'i herlid gan grëaduriaid ac adar ysglyfaethus, ac yn arbenig gan ddyn. Y mae wedi ei gwneyd hefyd ymhob peth at gyflymdra, ac i weled a chlywed ei gelyn. Mae ei holl ewynau wedi eu gwneyd at redeg. Mae ei llygaid wedi eu gosod ymhell yn ol yn ei phen, fel y gall weled yn ol a blaen ; a bydd fynychaf yn cysgu â'i llygaid yn agored. Y mae ganddi glustiau mawrion ^efyd, a gaìl eu troi fel y myno i dderbyn y sŵn lleiaf o unrhyw gyfeiriad. Gan fod ei choesau blaen yn fyrach na'r rhai ol, gall 'yned yn gyflym yn erbyn y tir. Mae blew hefyd yn tyfu dan ei thraed fel nad yw yn cadw dim trwst wrth redeg.