Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. 253 PARCH. THOMA.S OWEN, PORTHMADOG. AE genyin y pleser o gyflwyno i'n darllenwyr ddarlun o'r Parch. Thonias Öwen, Osmond Terrace, Porth- madog. Nid oes genym gyfleusdra i roddi ond braslun byr iawn o'i hanes gyda'r darlun, er fod hanes yn perthyn iddo, a'i fod yn ŵr teilwng i wneyd yr hanes hwnw yn gyhoeddus. Ganed ef yn Plasynhenllech, yn Lleyn, sef parth amaeth- yddol o Sir Gaernarfon, yn mis Mawrth, yn y flwyddyn 1833. Yr oedd ei dad yn amaethwr medrus iawn, yn deall ffarmio yn dda, a goruchwylio pob peth yn y drefn oreu. Cafodd ei fendithio hefyd â mam âda, grefyddol, garedig, a haelionus. Hydricf, 1899.