Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhi*. XLYIII.] RHÁGFYR, 1865. [Ctf. IV. MAG AC ELEN. §R oedd bwthyn yn sefyll wrtho ei hun ar dafod o dir yn ym- estyn i'r môr, a morwr, gyda gwraig a phlentyn, yn byw arno. Dynes dduwiol oedd y wraig, ond morwr garw ac anystyriol oedd y gŵr; yr oedd yn hoff iawn o'i eneth fach, Mag, ond nid oedd ddigon caredig i'w wraig. Yn wir, nid oedd gan- ddo ddim serch at y Bibl, na phethau crefyddol. Collodd Mag ei mam pan nad oedd ond tair oed. Nid oedcl ond ei thad a hithau; ond yr oedd llawer o weddíau a dagrau wedi eu gadael gan y fam dros ei hanwyl blentyn. Penderfynodd y tad y buasai yn cadw Mag oddiwrth hen dyb- iau crefyddol y fam. Dysgodd hi ei hunan i ddarllen ac ysgrif- enu, ond ni chai fyned i ysgol nac i wrando pregeth, a gofalai na chai neb arall ddyfod i wneyd argraffiadau crefyddol ar ei medd- wl. Felly cododd y plentyn i fyny yn wyllt, ac mor anwybodus am Dduw, a Iesu Grist, â Phagan. Ond yr oedd gweddiau ei mam o hyd yn aros ar ran ei hanwyl Mag, ac nid oedd Iesu Grist wedi eu hanghofio; ond yr oedd yn parotoi y ûbrdd i'w hateb. Daeth teulu crefyddol i'r gymydogaeth i dreulio haf ar làn y môr. î?r oedd gan y rhieni eneth ddeng mlwydd oed wedi bod yn glaf iawn, a ênynghorodd y meddyg ei dwyn i dreulio tymmor yn awyr y môr. Elen oedd ei henw—geneth fechan mor bryd-, ierth, ac mor fawr ei chariad at Iesu Grist, ag a welwyd erioecL