Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

r*3 9$. **8 SÄ £-5 % $ '** '** âS ^ ^ i?l#Ŵ2tfÂpy* Ehif. LXII.] CHWEFROR, 1867. [Cyf. VI. PONGO Y MWNCL jTtMORWR yw John fy mrawd. Aeth ar fordaith i Affrica, ac yr öp>í> oedd wedi addaw dwyn "present" yn ôl i mi. Yr oeddwn Y^ yn dysgwyl yn bryderus am ei ddychweliad, ac yn dyfalu ddydd a nos beth allai y "present" fod. O'r diwedd, daeth John a'i dro yn ôl; ac a wyddoch chwi beth oedd y "present ?" Mwnci! Yr oedd arnaf ei ofn ar y dechreu ; ond daethom yn ffryndiau cyn pen awr, ac ni chefais fy moddio gymaint mewn tegan erioed. Gofynais i John beth oedd ei enw. Trôdd i'r dictionary, a dywed- odd mai Pongo oedd y gair yno am y mwnci, ac y gallwn ei alw yn Pongo. Deallais yn fuan mai un o'r cymdeithion digrifaf fu erioed oedd Pongo. Gallai wneyd pobpeth, ond siarad; ac yr oedd yn gwneyd pobpeth a welai eraill yifwneyd. Chredwch chwi byth gymaint o bleser oeddem yn gael gyda Pongo. Yr oedd Pongo yn hofi' iawn o gerdded ar ei draed ôl, ac wrth ei weled felly, gwnaethom bâr o ddillad iddo. Gellwch eu gweled am dano yn awr. Byddai yn eistedd gyda thẁr o blant, yn ein canol, ac yn edrych yn ôl a blaen yn llygaid pawb o honom, fel pe buasai yn mwynhâu ein siarad a'n chwareu. Yr oedd y plant yn ei alw, y dyn mwnci bach, ac yr oeddent am ei alw yn Mr. Pongo Jones. Pe buasai yn gallu siarad a chwerthin, buasai cystal chwareuwr a'r un o honom. Yr oedd John fy mrawd yn ysmocio, a Phongo wedi ei weled lawer gwaith. Ac un diwrnod, pan aethum i mewn, yr oedd Pongo wedi cael o hyd i cigar, wedi ei thanio, ac wedi eistedd yn y gadair, ac yn ysmocio ei chalon hi. Yr oeddwn i yn meddwl ei fod yn ysmocio i "gael bod yn ddyn !" Ond gyrodd y cigar ef yn sâl iawn, ac ni chynnygiodd ysmocio byth wedi'n. Ac yr oedd fy nhad yn dyweyd ei fod wedi actio mwy dynol yn hyn na llawer dyn. Yr oedd siop saer yn ymyl ein tŷ ni, a byddai Pongo yn talu ymweliad mynych â'r seiri yno. Yr oedd yn hoff iawn o weled dynion yn chwerthin wrth ei stranciau. Càn gynted ag yr äi y gweithwyr i ginio, elai i ymhèl â'u hoffer, ac wrth geisio dynwared y seiri, anafai eu hawch. O'r diwedd, gorfu iddynt gloi y drws i gadw Pongo alìan. Penderfynodd y seiri un diwrnod chwarêU tric creulawn iawn â Phongo. Gosodasant awch da ar gyllell hir oedd ganddynt; a chan fod Pongo mor hoff o ddynwared pawb, cyn myned allan i'w