Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Rhif. LXIX.] MEDI, 1867. [Cyf. VI. Y DDALEN BRYDERUS. fDRODDAI taid unwaith yr ystori darawiadol am y ddalen bryderus wrth ei ŵyrion, bachgen a geneth, y rhai a wran- dawent fel pe buasent yn glustiau i gyd. Únwaith clywid dalen fechan ar y goeden yn ocheneidio ac yn llefain, fel y bydd | dail yn fynych pan fydd awel dyner yn tramwy o gwmpas. Dy- wedodd y brigyn wrthi, "Beth sydd arnat, ddalen fechan?" "V gwynt ddywedodd wrthyf yn awr," atebai hithau, "y gwna, rhyw ddiwrnod, fy nhynu ymaith, a'm tafiu ar y ddaear i farw." Dywedodd y brigyn wrth y gangen, a'r gangen wrth y pren. Pan glywodd y pren hyn, ysgydwodd i gyd drosto, ac anfonodd air yn ôl at y ddalen,