Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Oyf.IL CHWEFEOL, 1893. Ehif. 14. HANES CYMRU. Llyfr II. 613—1063. II. CADWALLON AC EDWIN. |YWBEYD tua 613 yr oedd dau fachgen yn chware yn llys Cadfan, brenin y Cymry. Cadwallon, mab y brenin, oedd un. A ffoadur bŷchan o Sais o'r enw Edwin oedd y llall. Yr oedd yntau hefyd yn fab i frenin, ac i wisgo coron ei hun; ond. yr oedd brenin arall wedi cymeryd ei deyrnas, gan fod ei dad wedi niarw, ac Edwin yn rhy fach i ymladd. Aethelfrith oedd enw y brenin creulawn hwnnw. Dihangodd mam Edwin, a'i bachgen, i G-ymru i ofyn am nawdd y brenin Cadfan. A dywed hen hares fod y ddau fachgen, oedd i ymdrechu a'u gilydd am goron yr ynys, wedi eu cyd-fagu ac wedi cyd-chwareu yn nyddiau eu mebyd. Yr oedd Aethelfrith, brenin Bryneich, wedi gorchfygu Deifr, —brenhiniaeth Aella, tad Edwin. Yna penderfynodd orchfygu Cymru hefyd; a chwympodd Cadfan wrth ymladd yn ei erbyn ar forfa Caer. Wedi'r frwydr hon, y mae'n bur debyg i'r ddau dywysog ieuanc,—y Sais a'r Cymro,—ddianc o'r wlad; a dywedir mai i Lydaw yr aethant. Yno buont yn cyd-ddysgu ymladd yn erbyn eu gelynion. Yna daethant yn ol i'r ynys hon. Daeth. Cadwallon yn frenin Cymru; a daeth Edwin, wedi ymladd yii erbyn Aethelfrith, yn frenin Northumbria. Hwyrach fod Cad^ waÜon yn helpu Edwin yn erbyn eu gelyn, dywed y traddodiada\i .Cymreig ei fod.