Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jj» Jj^A fify ỳj ÿ Cyf. II. AWST, 1893. Rhif 20. YSTRAEON 0 HANE^ PRYDAIN. (Safonau I. a II.) II. HTJW ARWYSTLI. [EDE pob un ddysgu, os ceisia. Y mae llawer yn meddwl fod diffyg gallu ynddynt, ond diogi meddwl sydd, a diffyg cred ynddynt eu hunain. Yr oedd bardd yn Lloegr, a bardd yng Nghymru wedi hynny, yn fud nes y credodd y ddau y medrent ganu. Ac yna yr oedd y ddau'n canu. Bachgen cloff tlawd oedd Huw Arwystli, ac nid oedd neb yn meddwl dim o hono. Weithiau ni fyddai ganddo le i gysgu pan ddeuai'r nos ; ac ai i eglwys Llandinam i aros hyd y bore. Yr oedd yr eglwys yn oer ac yn ddu, ond yr oedd yn well na'r rhew a'r eira. Byw Galan Mai daeth y cloff i gysgu i r eglwys ; a phan gysgodd, gwelodd drwy ei hun ryw wr yn dod ato, ac yn rhoi rhywbeth yn ei enau. Pan ddeö'rodd yn y bore, daeth genethig heibio, wedi bod yn casglu brigau, ac ereill gyda hi. Pan ddaeth dan y ffeneetr, uwch y fan yr oedd Huw yn gorwedd, ebe hi,— " Ni rydd neb frigau i'r cloff yma, druan, mi rof fi rai iddo." A rhodd gangen o ir-goed iddo trwy'r ffenestr. Dyma yntau'n rhoi diolch iddi, ar gân, er nad oedd wedi canu erioed o'r blaen. Credodd mai Duw oedd wedi rhoddi iddo, yn ei gwsg, allu i ganu. Ac o hynny allan canodd lawer, ac yr oedd yn canu'n well na phawb. Yr oedd pawb yn hoff o'i gerddi, a phawb yn rhodd parch iddo. Yn amser y frenhines Elizabeth y bu hyn.