Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ffîtiuwb ?t>&ftf> Oyf. II. HYDEEF, 1893. Ehif 22. YSTRAEON 0 HANES PRYDAIN. {Safonau I. a II) IV. Y BRENIN CAETH. E oedd gwŷr creulon a'u bryd ar ladd y Cymry. Y rhai gwaethaf o'r gwŷr creulon hyn oedd Huw Flaidd, Caer; a Huw Goch, yr Am- wythig. Ond yr oedd brenin cryf a da ya ein gwlad yradeghonno, sef Gruffyddab Cynan. "Os medrwn ni ddal eu brenin, a'i roi'n gaeth," ebe Huw Flaidd a Huw Goch, " bydd yn hawdd i ni ladd y Cymry." Aeth bradwr at frenin y Cymry. " Mae dau wr jn gofyn i ti ddod at lan yr afon mewn heddwch," meddai. Aeth Gruffydd ab Cynan; ac wele wŷr arfog yn dod o'r coed ac yn dal y brenin, ac yn mynd ag ef i garchar Caer. " Yn awr," ebe Huw Flaidd a Huw Goch, " ni gawn ladd y Oymry, a dwyn eu tir." Eyw dro, aeth hen Gymro i brynnu i siopau Caer. A gwel- odd ei frenin yno, a chadwen haiarn am ei draed a'i ddwjdaw. Yr oedd gwìpdd fawr yn y ddinas y dydd hwnnw, ac yr oedd pob milwr yn feddw. Pan ddaeth y nos, cododd yr hen Gymro ei frenin ar ei gefn; a chludodd ef allan drwy'r porth, pan oedd y porthor mewn cwsg meddw. " Ehaid i ni ddianc am ein bywyd o Gymru," ebe Huw Flaidd wrth Huw Goch, a Huw Goch wrth Huw Flaidd, " mae ■Gruffydd ab Cynan yn rhydd!"