Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ffîUffift H%ftT> Cyf. III. IONAWR, 1894. Ehif 25. FY NGHLENMG I. A le mae fy nghlennig, gofynnaf yn fwyn, Maeheddyw'n ddydd Calan,—gwran- dewch ar fy nghwyn, OI rhoddwch galennig i blentyn bach, gwyw, Chwychwi sydd mewn llawnder bob amser yn byw. Fynghlennig! fy nghlennig! yw'm dolef ar daen, Ni bum ar eich gofyn ers blwyddyn o'r blaen; Ni flinaf chwi eto am flwyddyn yn wir, Mae blwyddyn yn gyfnod mor hynod o hir. Un waith yn y flwyddyn mae'r Calan i'w gael, Mae'n gyfle rhagorol i weld pwy yw'r hael; A phwy yw y cybydd crintachlyd ei fryd, Na ddyry 'r un hatling pe trengai'r hoîl fyd! " Mae'r gwartheg yn isel," medd hwnnw yn syn,- " Nis gallaf roi cJennig ar adeg fel hyn; Dos ymaith y lleban aflafar dy gri!— Mae'n well ar y gweithwyr o'r hanner na ni."