Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rwffîü H&ttt' Cyf. III. MAI, 189$! Ehif 29. CYMRU YN HANNER GYNTAF Y BED- WAREDD GANRIF AR BYMTHEG. GrAN Eben Fardd. I. YN GREFYDDOL A MOESOL. 1. Sefydliad Cyffredinol yr Ysgolion Sul, trwy offerynoliaeth y diweddar Mr. Charles yn bennaf. Eu gweithrediadau,— (a) Dysgu i'r bobl ddarllen. (b) Tynnu mwy o sylw at gadwraeth y Sabboth. (c) Dysgu egwyddorion crefydd. (d) Diddymu i raddau helaeth y cyfarfodydd anfoesol, megis noswaith lawen, chwareu cardiau, cwrw bach, dywsulllawen, &c. 2. Sefydliad Cymdeithas y Beibl. Ei gweithrediadau yng Nghymru,— (a) Rhadloni pris Beiblau. (b) Helaethu y cyflenwad. (c) Achlysuro ymchwil i ba raddau yr oedd y Beibl gan y bobl. 3. Cymdeithas Dirwest. Ei gweithrediadau,— (a) Dynoethi afradlonrwydd y wlad, a dwyn i'r aralwg ystadegaubuddiolat effeithio gwelliant cymdeithasol. (b) Diwygio meddwon. (c) Cymedroli i raddau yr arfer gyffredin o ddiodydd meddwol yn y wlad. (d) Dysgu glanweithdra, cynhildeb, ac ymroad diwygiadol.