Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(Esiampl o ddarluniau'r Llenor). LLYFRAU NEWYDDIOX. Y mae'r ail lyfr o'r Llenor yn awr yn y farchnad. Y mae, fel y llyfr cyntaf, yn gyfrol ar ei ben ei hun ; a gellir ei gael mewn rhwymiad llian am ddeunaw ceiniog. 0 ran diwyg a darluniau, ni welwyd dim yng Nghymru cyn dlysed, ac ni welir yn unlle beth tlysach. Y mae'r darluniau o hen wlad yr Aifft ac o fywyd Martin Luther yn hardd ac yn ddyddorol iawn. Erthygl ar athroniaeth cymdeithas, yn cynnwys llawer o feddwl wcdi ei wasgu i ychydig o le, yw'r gyntaf. Erthygl ar yr Aifft a'r Beibl, gan un hollol gydnabyddus a'r wlad a'r llyfr, mewn arddull swynol dros ben, yw'r ail. Yna daw erthygl gynhwysfawr gan un o'n prif lenorion, yn rhoi'r holl wybodaeth o lygad y ffynnon am hen fardd enwog Llanystumdwy. Ar ei hol daw erthygl oleu a chyflawn ar hanes cynhyrfus Martin Luther. Yn olaf peth y mae erthygl, gan un o feirdd goreu Cymra, ar ein cerddi arwrol. Y mae'r darluniau bychain sydd ynddo, a hanes meddwl y byd yn y tri mis diweddaf, yn ychwanegu at ddyddordeb y chwarterolyn hwn. Y mae'r Mri. Hughes, Gwrecsam, wedi aü gyhoeddi Houi ac Ateb ar Hanes Cymru, gyda darluniau newyddion, ac wedi ei ehangu wyth tudalen. Nid yw ei bris ond ceiniog, fel o'r blaen. Y mae hwn yn gwerthu wrth y miloedd; a gwna lawer, mae'n ddiameu, i wneyd y to sy'n codi yn wladgarwyr selog a goleuedig. Gŵyr y plant fod gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, dan nawdd llywodraeth ryddfrydig a llengarol Arianin. Y mae'r Parch. A. Matthews, un o sefydlwyr cyntaf y Wladfa, newydd ysgrifennu hanes ymdrech a llwyddiant y gwladfawyr. Llyfr swllt ydyw " Hanes y \Vladfa Gymreig," a chyhoeddir ef gan Mills ac Evans, Aberdâr.