Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jftptoptodau am Jütfttm, Golygfa ar ben y Garneddwen o Fryn Tynoriad, cartref Ieuan Gwynedd. (O Wales am Ionawr.) Wales. Unig gylchgrawn Saesneg cenh.edlaetb.ol Cymru. Ceir ynddo ddar- luniau o fywyd Cymru, hanes addysg, hanes a llenyddiaeth Cymru, y cyfreithiau, &c. Trysorgell o wybodaeth fuddiol am ein gwlad. Mae'n dryfrith o'r darluniau prydferthaf. Hughes, Gwrecsam ; 6c. y mis. Yn y Tren. Pigion o waith difyr Andronicus, y llenor cystuddiedig aeth i'w orffwysfan yn ddiweddar, dan olygiaeth Anthropos. Gŵyr y plant am awdwr hoff " Yr Ysgol." Swyddfa'r Geneâl, Caernarfon, 1/- Y Baudd a'b Cerddor. Gan Ceiriog. Mae hanes Ednyfed Fychan, testun drama Eisteddfod Gwrecsam, ar tud. 81—86. Hughes, Gwrecsam, 1/- Cymrtj. Yn y gyfrol newydd y mae darluniau gan H. Williams (awdwr Ty Kain) o'r stiward, y cipar, y tenant, &c. Caernarfon, 6c. y mis Y Llenor. Bydd un o awdlau anghyhoeddedig Tafolog yn y rhifyn nesaf, a chipdrem ddarluniedig ar hanes 1895. Hughes, Gwrecsam. Swllt y chwarter. Y Messiah. Gan Dr. Cynhafal Jones. Meddyliau am hanes y Gwaredwr, ar gân ; cyfrol dlos, gyda darluniau clir. Treffynnon, P. M. Evans, 3/6.