Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jtpbptadau am ^sfratu ^^ Sp HHM ». • •" ***'; ■'; ^T%^^i^>2r"-- 7^ŵ^ .-■ .r-- ■ ">*■'■■■ ■ ■ ;•'■ *'■. •"•* ■;■ .■ heidelherg (O'r Llcnor.) Y Llenor. Hwn yw unig gylchgrawn chwarterol cenedlaethol Cymru, a dylai pob bachgen a geneth ddarllengar ychwanegu ei lyfrau at eu llyfrgell. Ymdrinir ynddo â'r pynciau sy'n tynnu meddwl y byd yn y dyddiau hyn. Dyma rai o'i destynau,—Llais na ddistewir, Prifysgol Cymru, Mair-addoliad, Llenyddiaeth y Gael, Bywyd Llydaw, Owen Glyn Dwr, Arian, Lluoedd y Dwyrain, Pwnc y Tir, Masnach Rydd. Mae pob llyfr wedi ei argraffu'n dlws ar bapur da, ac yn dryfrith o ddarluniau. Swllt y chwarter yw ei bris. "Wales. Misolyn Saesneg, llawn ysbryd cenedlgarol. Gostyngir ei bris y flwyddyn nesaf i dair ceiniog. Bydd darluniau o'n hysgolion sir a'u myfyrwyr ynddo. Ymysg pethau eraül o ddyddordeb neilltuol bydd chwedl gyffrous, gan un o brif ysgrifenwyr Lloegr, yn ymddangos am y tro cyntaf. Heddyw. Misolyn darluniadol, pris tair ceiniog, i ymdrin â bywyd Cymru fel y mae. Cynhwysa erthyglau byrion, difyr, a min arnynt, gan brif ysgrifenwyr y genedl. Beth wneir, beth bregethir, beth ysgrifennir, beth genir, beth na wneir, eeir erthyglau byrion didderbyn-wyneb arnynt. Cyhoeddir y tri chylchgrawn hyn yn swyddfa Ctmru'r Plant gan Hughes a'i fab, 56 Hope Street, Wrexham. Os nad oes llyfrwerthwr yn eich ymyl, ysgrifennwch at y cyhoeddwyr.