Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jtgsbptadatt am ^gfraiu Y Llenor. Cyhhwysa llyfr Ebrill amryw erthyglau gwerthfawr a dyddorol iawn, a barddoniaeth fyw gan ysbryd yr awen wir. Y mae pob rhifyn yn Uyfr ar ei ben ei hun; a gobeithir y bydd y cyfrolau yn llyfrgell fechan mewn aml gartref. Bydd y rhifyn nesaf,—llyfr Gorffennaf,—yn cynnwys rhai o weithiau goreu Islwyn, gweithiau rhydd- iaethol, a pheth o'i waith barddonol nad yw yn y gyfrol fawr o'i waith sydd newydd ei chyhoeddi. Swllt yw pris pob llyfr. Cyhoeddir gan y Mri. Hughes, Gwrecsam. - "'—^w a*. —~äü " |Mae Heddyiu a Wales,—dau fìsolyn tair ceiniog yn trin symudiadau'r dydd yng Xghymru,—yn cael derbyniad gwresog a chynhyddol. -•■.'<,-'.* Caniadau Cymru, wedi eu dethol a'u golygu gan W. Lewis Jones. Bangor, Jarvis a Foster. Detholiad yw hwn o 138 o ganeuon tlysaf a hoffaf Cymru, o Huw Morus hyd at Geiriog ac Islwyn. 0 ran gwedd argraff a rhwymiad, y mae gyda'r fr tlysaf argraffwyd yng Nghymru erioed. Mae'r rhagdraeth a'r nodiadau, gan y golygydd, yn ddyddorol ac yn awgrymiadol iawn. Bhodd swynol Ben Bowen. Y Cadeirfardd Ieuanc (0 Huddyu:) " Chapteks^on,îthe."Aims and ^Practice uf Teaching. Cambridge, The Uni- versity Press, 6/- Dyma lyfr i athrawon ac i bawb sydd a'i ysgwydd dan faich addysg yng Nghymru. Ei olygydd yw'r athraw Spencer, o Fangor ; ac y mae'r ysgrifenwyr'yn wyr galluog a hyfforddus. Bydd Cymhe Islwyn yn y farchnad yn fuan,—argraffìad darluniedig swUt. Cyhoeddir yn swyddfa Cymhu'r Plant. Mae ychydig gopiau o Waith Islwyn,—pris hanner gini,—eto yn y farchnad. Cymhu. Y mae Uun Mrs. 01iver Jones, awdures y Fun o Eitlúnfynydd,—a fu farw mor ieuanc,—yn wynebddarlun i rifyn Ebrill. I Gymru yr ysgrifennodd Mrs. Jones fwyaf. I Gymru yr' ysgrifennodd amryw o'n hawduresau fwyaf. Iddo ef yr ysgrifennodd Ellen Hughes ei Benjamin Bach; iddo ef, yr wyf yn meddwl, y dechreuodd Winnie Parry ysgrifennu. Bydd yn dda gan lawer glywed fod Sioned yn dal i adrodd ei hanes o hyd.