Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jtptipiaâatt am 3Lẅtm. TAN Y CASTELL. (0 Cymru Islwyn, yn barod yn fuan, pris swllt.) Y Llenor. Llyfr Gorffennaf. Rhoddir y llyfr hwn yn gyfangwbl i Islwyn. -Ceir ynddo rai o bigion ei waith llenyddol, a rhai o'i ganeuon goreu,—rhai na chafwyd mewn pryd i'w rhoddi yn ei waith. Ymysg y pigion rhyddieithol y mae ei draethawâ ar y " Bachgeu Iesu ; " ymysg y gweddillion barddonol y mae " Hapus Dyrfa." Swllt y chwarter yw pris y Llenor. Y mae pob rhifyn yn Uyfr cyflawn ar ei ben ei hun. Cymru. Ymysg erthyglau rhifyn Mehefìn y mae erthygl fanwl a hynod ddarllenadwy ar Robert 01iver Rees,—gŵr y dylai pob plentyn o Gymro wybod am dano a'i garu, gan Idriswyn. "I godi'r hen wlad yn ei hol" yw amcan Cymru; ei bris yw chwe cheiniog y mis. Wales. Prif nodwedd WaUs yw " The House of the Twisted Sapling," rhamant Owen Rhoscomyl, yr ystori fwyaf cyffrous ysgrifennwyd erioed i ddarlunio bywyd Cymru. Heddyw. Dylai pawb gael rhifyn Awst,—^bydd yn cynnwys hanes Cymru yn ystod teyrnasiad Yictoria, ac yn dryfrith o ddarluniau. Pris tair ceiniog. Tu Hwnt i'r Llen. Swyddfa'r "Mercury," Llanelli, pris 3c. Dyma'r " bardd newydd " yn ei nerth, gyda'i neges ryfedd. Mynned y plant hynaf ef, a threiant gymuno â'r awen feddylgar. Cant glywed llawer o son am Gwili eto. Meillion y Glyn. Dyma ail lyfr Glyn Myfyr,—llyfr o ganeuon hyfryd a dyddorol iawn. Ceir y swp Meillion oddiwrth yr awdwr, Blaenau Ffestiniog, am chwe cheiniog. Hunan-Aherth. Dyma un o awdlau Eisteddfod Caernarfou eto,—awdl Dewi Glan Ffrydlas, awdl naturiol, chwaethus, gref. Ceir oddiwrth yr awdwr, Bethesda ; chwe cheiniog.