Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

f moom am SLẅtm. Bydd yn dda gan blant ürdd y Delyn, a llawer ereill, gael Llyfr Diarhebion* am geiniog. Dylai pob Cymro fedru diarhebion ei wlad. Beth yw'r ysfa sydd ar rai pobl am ddefnyddio adnod ar eu hysgwrs, pa mor anghyfaddas bynnag y bo i'r pwnc, a pha mor boenus bynnag i ereill yw clywed geiriau cysegredig yn cael eu defnyddio'n ofer? Ysfa am ryw ddywed- iad i gadarnhau syniad neu i gloi dywediad ydyw. Ond gwaith dihareb yw hynny. Darllenner, dysger, a defnyddier y diarhebion hyn ; ceir pleser wrth eu darllen, byddant yn gyfoeth i'r meddwl wedi eu dysgu, byddant yn barod at yr alwad i egluro pwnc ac i wneyd y gwir yn rymus. Ail lyfr y gyfres fydd detholiadau o waith bardd- onol Islwyn,t er mwyn cael barddoniaeth a rhydd- iaith bob yn ail. Y mae'r llyfr hwnnw yn y wasg, a bydd yn barod cyn yr argreffir y geiriau hyn. Bhai o ddarnau symlaf îslwyn ydynt, er mwyn i blant fedru eu deall. Ni chynhwysir ynddo yr un o'r darnau sydd yn Cymru, na'r un o'r rhai oedd yn y Caniadau ond " Ceisio Gloewach Nen,"—ni fydd yr un llyfr i blant yn gyflawn heb honno. A fo ysgafn galon a gân. (O Ddiarltebion Cymru.) Clywsoch son am yr hynod Bobert Jones, Llan- llyfm. Y mae y Barch. B. Eoberts (Meinydd), Treforis, newydd gyhoeddi llyfr o'i IIynodion.\ Mae'r hen bererin athrylithgar rhyfedd yn fyw ar bob tudalen ohono ; ni raid dweyd, felly, ei fod yn lìyfr nas gellir ei roddi o'r llaw nes ei orffen. Mae'r Mri. Jaiwis a Foster newydd gyhoeddi llyfr yn cynwys pigion o ryddiaith Cymru,—darnau o'r Mabinogion, ac o waith Gruffydd Boberts, William Morgan, Sion Dafydd Bhys, Morus Eyffin, Edward Byffìn, Morgan Llwyd, Charles Edwards, Elis Wynn, Theophilus Erans, ac Edward öamuel. Y mae wedi ei argraffu yn brydferth dros ben.** Mae llyfr i ysgolion at ddysgu cyfìeithu, fel ag i ddysgu Cymraeg a Saesneg, newydd 'ei gyhoeddi gan y Mri. Hughes. Mae'n ddyddorol ac yn addysgiadol.î * Diarhebion Cymru. Pedwar can dihareb, darluniau, &c.; 32 t.d. Ceiniog. Hughes, Gwrecsum. t Islwyn. Rhai o'i ddarnau syrnlaf, tlysaf. Darluniau. 32 t.d. Ceiniog. Hughes, Gwrecsam, § Hynodion y diweddar Hybarch Robert Jones, Llanllyfni. Gan y Parch R. Roberts (Meinydd) ■9C t.d. Swllt. Evans a Short, Tonypandy. ** Clasüron Rhyddiaith Cymru. Wedi eu dethol a'u golygu gan Edward Edwards, athraw hanes yng Ngholeg Cymru, Aberystwyth. 162 t.d., 2/6 a 1/6 yn ol y rhwymiad. Bangor, Jarvis a Foster. î Pieces for Translation (Darnau i'w cyfieithu), selected and arranged by J. M. Edwards, €ounty School, Barmouth. Llian, 96 t.d., 9d. Wrexham, Hughes and Son.