Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSGWRS AM LYFRAU. Y mae Theophilus Evans wedi ei gladdu ger yr eglwys acw. Gẁyr pawb ddau beth am Theo- philus Evans,—mai efe a ddar- garifyddodd rin dwfr Llanwrtyd, ac mai efe a ysgrifennodd Ddrych y Prif Oesoedd* Yr oedd Theo- philus Evans, er ei fod yn berson eglwys, yn cael ei flino gan y clefri poeth (scurvy), ac yr oedd yn dyheu am iacb ad. Eyw for e, meddir, gwelai lyffant yn neidio i bwll o ddwfr ystyrrid yn wen- wynig, ac yn dod oddiyno yn ddisgleiriach a harddach ei groen nag o'r blaen. Tybiodd y gŵr da y gallai f od rhin yn y dwfr i iachau croen a gwaed pobl hefyd. A thaenwyd clod dwfr Llanwrtyd, a daeth pobl yno o bob cyfeiriad; ac y maent yn dal i fynd yno, rhai gwael a rhai heb fod yn wael, hyd y dydd hwn. Yr oedd peth arall yn blino Theophilus Evans. Ni wyddai neb ddim am hanes Cymru ; ac ychydig oedcl yn awyddus i wybod. Ysgrifennodd yntau hanes y Cymry,—yn ei Ddrych y Prif Oesoedd,—mor -ddyddorol nes swyno pawb i'w ddarllen. Mae ei Gymraeg gyda'r goreu ysgrifen- nwyd erioed. Mae ei gydmariaethau oddiwrth anifeüiaid, a'i gyfeiriadau aml at nodweddion ein natur, yn gwneyd y llyfr mor ddyddorol a rhamant. Hwn oedd hoffi lyfr ein tadau a'n teidiau, ohono ef y cawsant hanes eu gwlad. Xid gormod yw dweyd hyn,—ni fuasai Cymru y peth ydyw heddyw, ni fuasai ei hysgolion a'i cholegau a'i phrifysgol y peth ydynt, ni fuasai.ei hundeb mor gryf, oni bai am arddull swynol a gwladgarwch pur Drych y Prif Oesoedd. Yr wyf newydd gyhoeddi rhannau hanesyddol y llyfr hwn, am chwe cheimog, i blant. Argraffiad i'r aelwyd a'r ysgol ydyw; i arhohadau Cymru a Rhydychen, ac i gyfarfodydd CJrdd y Delyn. Ý mae'n ddigon rhad i bawb i'w gael i'w lyfrgell. Miss Winnie Parry yw awdures " Gwenfron, merch y brenin." Bydd yr ystori 'n rhedeg hyd ddiwedd y flwyddyn. Cyfieithiad yw " David Swan" o fantasy Hawthorne. Yr wyf yn credu mai dyma'r stori fechan beiffeithiaf ysgrifennwyd mewn unrhyw iaith erioed. Mae dwy ran ohoni i ddod eto. Yn y rhifyn hwn dechreu hanes ar gân,—hanes taith dyferyn dŵr o fôr i fôr;— gan R. WiUiams, B.A., y Bala, un o deulu Iorwerth Glan Aled ac un o raddedíg- ion cyntaf Prifysgol Cymru. Bhaid i'r hanesion hyn ddarfod i gyd yn rhifyn Rhagfyr. Bydd ystoriau newyddion yn dechreu yn rhifyn Ionawr. LLANÖAMARCH. * Drych y Prif Oesoedd. Yr ail lyfr yng nghyfres Clasuron Cymru. Amlen galed, wyueb- ddarlun, S6 tudalen. Chwe cheiniog. Caernarfon, Swyddfa Cymru.