Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSGWRS Y GOLYGYDD. Sr 1 RA dyddorol yw " Adroddlyfr y Plant," gyhoedd- wyd gan Beren ddydd Gwyl Dewi. Llyfr bychan destlus, chwe cheiniog o bris, ydyw; yn cynnwy6 llawer o ddarnau barddonol cymwys i'w hadrodd, y rhan fwyaf o waith Beren ei hun. Y maent olí yn naturiol ac yn darawiadol iawn. Da gennyf allu llongyfarch Bichard ab Hugh, un y gwyddoch yn dda am ei ganeuon, ar ei waith yn ennill cader Eisteddfod y Bala. J. Ll. G. Cynnyg cyntaf da iawn; y llinellau yn. felodaidd a chyhyd. Y mae caneuon gwanwyn eleni wedi eu trefnu. Canwch eto gyda'r gog y Üwyddyn nesaf. - __'___ ■_ Yn y lle crwn y mis hwn gwelir llun un o enethod Meirionnydd,—Ceridwen Ann Griffiths, merch Mr. a Mrs. D. Griffiths, Glandwyryd, Rhiwbryfdir. Nid yw eto ond unarddeg oed ; ond, oherwydd ei gallu naturiol a swynol i adrodd, y mae wedi cyrraedd enwogrwydd bron cenhedlaethol. Mae hi a'i chwaer Blodwen, sydd ddwy flynedd yn hýn na hi, wedi adrodd llawer mewn cyfarfodydd mewn llawer ardal. Ond buddugoliaeth fwyaf Ceridwen oedd ennill y wobr yn Eisteddfod Genhedl- aetbol 1898, pan oedd deuddeg ar hugain o adroddwyr goreu* Cymru yn cynnyg. Gwn y bydd yn dda gennych oll, filoedd o ddarllenwyr, weled ei gwyneb. " Arwerthiant y Caethwas'• Hiraethog oedd y dernyn. Sylwer ar enwau Cymreig y teulu dvddorol hwn, — Llywelyn, Myfanwy, Blodwen, Ceridwen, Eluned. Y mae llawer o dalent yn y téulu heblaw at adrodd. Y mae Cymru'n galw am loewi pob talent heddyw; rhwydd hynt i rieni ymdrechgar godi'r hen wlad. Y Gystadlbuaeth. Y mae'r golygydd, druan, mewn penbleth flin. Y mae wedi bod fis arall uwch ben y pentwr papurau; ond, er ei fod yn llawer pellach ymlaen, nid yw eto wedi cwbl benderfynu. Ni chafodd erioed gymaint o bapurau i'w beirniadu ar unwaith, ac y mae nifer mawr o'r ystoriau yn rhai campus. ühaid i mi benderfynu erbyn y rhifyn nesaf. Y mae Urdd y Delyn yn cynbyddu'n gyflym. Y mae Uiaws o enwau eto mewn llaw ; a bydd rhif yr aelodau yn fll yn fuan iawn. Y mae llyfrau bychain newydd i ddod cyn hir; ond, wrth gwrs, gall pob cangen ddefnyddio'r llyfrau a fyn. Y mae llaẅer o atebion wedi eu paratoi; ond yr anhawsder ydyw cael lle iddynt. Mae llawer iawn mewn Uaw, a gore po fwyaf gaf. Cofler fod pob rhifyn yn cael ei drefnu wythnosau, weithiau flsoedd, ymlaen llaw. Bob dydd bron mae gennyf achos diolch i ryw lenor dros blant Cymru.