Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSGWRS Y GOLYGYDD. Ysgol y Bwrdd, Dyffryn Ardudwy. R wyf yn gobeithio fod y plant yn cofìo am beth y cynhygiwyd gwobr yn y rhifyn di- weddaf. Cyn hir, yr wyf yn disgwyl y bydd plant Cymru yn medru tynnu digon o d'darluniau i lenwi Cymru'r Plant. Ffordd bynnag. os na fedr y plant wneyd defnydd o'r bensel neu'r brws neu'r camera, dysgent syllu ar brydferthwch natur. Yn yr haf hyfryd hwn, dylai pob plentyn fod allan yn y caeau. Mynned ddarganfod rhyw sedd o'r hon y gall wyho coed a blodau ac adar. Na ddysgwn i'n plant fod y byd hwn yn fyd drwg,—y mae'n llawn o ddaioni ac yn orlawn o brydferthwch. Dylai pob plentyn ganu. Y mae Robert Roberts, A.C., athraw yn y Dyffryn, wedi cyhoeddi llyfr caneuon i ysgolion ac ar gyfer cystadleuaethau. Y mae testynau'r can- euon yn daugos y dylai'r llawen ei gael,— Fy Anwyl Wlad, Y*Friallen, Yr Ehedydd, Ffarwel y Gwcw, Diwrnod yn y Wlad, Tros y Garreg. Y mae'r geiriau yn y ddwy iaith. Ceir y llyfr oddiwrth R. Roberts, Xid yw ei bris ond dwy geiniog. Dau frawd a chwaer,—plant Island Yiew, Llanfairfechan,—yw y plant bach oedd yn y lle crwn y mis diweddaf. Drwg gennyf ddweyd fod y brodyr wedi colli eu chwaer. Y mae llawer o Gymry bychain trefydd Lloegr wedi cael treulio gwyhau yng Nghymru,—ac wedi gweld y mynydd a'r môr, ac eisteddfod hefyd hwyrach. Yn sicr, y mae'r gân sy'n dilyn yn dweyd eu teimladau. GWLAD FY NHADAU. 'Rwy'n hoff o Wlad fy Nhadau, a'i bryniau cribog ban, Ni fyddaf byth yn canfod eu tebyg yn un man; Cusanant y cymylau tra'n wlyb gan ddagrau'r nos, Dros eu hysgwyddau prydferth y gwena'r lleuad dlos. 'Rwy'n hoff o Wlad fy Nhadau, gwlad yr Eisteddfod gu, Athrofa genedlaethol yn hanes Cymru fu; Disgleirdeb ei goleuni, fel haul ar hanner dydd Sy heddyw'n twynnu'n gynnes ymlaen a'r Gymru fydd. 'Rwy'n hoff o Wlad fy ÎSThadau, gwlad yr hen gewri gynt, Mae'r creigiau fel pe'n adsain eu henwau g}rda'r gwynt; Gwlad enwog meibion barddas, a'r delyn deir-res lon, Gwlad cerdd a moes a chréfydd,mae 'nghalon i yn hon. Ilaä Daties.