Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYSTADLEUAETH Y GWAWL ARLUNIAÜ. C1AFWYD cystadleuaetb ddyddorol iawn. Bywyd llonydd ddarlunnir gan J mwyaf,—ychydig iawn o ddim symudol sydd yn y darluniau. Yr oeddwn wedi disgwyl cael, nid yn unig yr afon lonydd neu y capel yn y wlad, ond gyrr o •ddefaid neu alarch ar y llyn. Ond, fel y deallwcli oddiwrth y darluniau fydd yn y rhifynnau nesaf, nid #oes gennyf le i gwyno. Y mae ymysg fy narìlenwyr arlunwyr medrus iawn. Yn y dosbarth cyntaf yr wyf yn rhoddi y rhai sydd wedi dysgu câelfocw wna'r •darlun yn berffaith glir, wedi dysgu developio yr hyn sydd eisiau, yn lân ac yn daclus, ac wedi dysgu tonio,—maddeuer i mi am Gymreigio cymaint o eiriau Saesneg. Y mae y pethau hyn yn angenrheidiol cyn y medrir gwobrwyo. Yna daw chwaeth,—yr hyn sy'n penderfynu cymeriad arlunol y darlun. Y mae llawer gwrthrych, a llawer agwedd ar olygfa, nad yw'n ddymunol i'r llygad. Os golygfa, dylai fod yn un rydd orffwys i'r ílygad. Gormod o foreground sydd mewn llawer o'r darluniau hyn. Dyma'r dosbarth cyntaf yn unig,— Cychwyn i Daith. W. L. Evans, Abergele. Gwaith glân, manwl. Yr hynap yn Abergele. J. L. Evans. Gwaith da iawn eto. Pentre Llandebie. D. Rees, Pen y Groes. Golygfa eang, a chlir. Dyffryn yr Ystwyth. R. J. Thomas. Tlws iawn. Rhy unUiw. €apel Gosen. Isaac Thomas. Ychydig yn aneglur. Ar y Gamlas. J. E. Evans. Golygfa brydferth. Gwall developio. Golygfeydd yn Llanrwst. A. J. Wüliams. Gormod o exposure. Rhaiadr Cynwyd. R. Hughes. Ehy agos, focus amherffaith. Ger y Wyddgrtjg. E. Penrith Jones. Darluniau da. Dim digon o unoliaeth Y& y golygfeydd. In the Highlands. F. Clark. Gwaith da. Cysgodau rhy dduon. Pont y Nant. H. Earnshaw. Pont a choed; ychydig yn aneglur. Penrhos Lltjgwy. Gan Mynyddwr. Y developio braidd yn amherffaith. Stag Inn. Dwy olygfa. T. Ll. Jones. Yn developió'xL bur anwastad. Capel Eirianell. J. E. Evans. Tarawiadol; gormod o shade. Ysgol Ganolraddol Bethesda. Rhy unlliw ; rhy fach o ddevelopio. Cwm Rhondda. W. D. Lewis. Clir; ond tonio amherffaith. Capel y Dyffryn. W. Davies, Taibach. Dymunol, ond rhy aneglur. Ysgubor Bryn Saith Marchog. R. S. Davies. Focus anghywir. Y mae'n anodd iawn pigo y rhai goreu. Rhannaf y wobr gyntaf rhwng W. L. Evan8 a J. L. Evans. Rhannaf yr ail rhwng F. Clark, Nannau, Dolgellau, ac awdwr darlun Llandebie, sydd yn y rhifyn hwn. Rhoddaf y drydedd i R. J. Thomas. Bydd gair am y gystadleuaeth hon yn y rhifyn nesaf eto. Daeth darluniau tlysion oddiwrth Dan Lewis, Cwmaman, yn rhy ddiweddar.