Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. R yr ail ddalen, yn wyneb-ddarlun i'r rhifyn hwu, eeir golygfa ar blant Holland, wrth un o'r camlesoedd sydd yn rhedeg drwy bob rhan o'u gwlad. Rhaid gadael y ben- nod ar arwriaeth eu gwlad,—pennod o hanes ieuenctid y Tywysog Distaw,—dan y rhifyn nesaf. Rhaid gadael hefyd y bennod yn desgrifio Bordighera o'r gyfre's " Gauaf ar lan Môr y Canoldir." Gwlad y llew yw Affrig, ac y mae ymladd yno o hyd. Y llew Prydeinig drecha yn y diwedd', ond nid heb golli gwaed fel dwfr. Buan y terfyno y rhyfel erchyll hwn rhwng Cristionogion. Gresyn fod y ganrif yn debyg o ddarfod, a chanrif newydd ddod i mewn, mewn gwaed. H. J. Wrth gofìo, dyma lythyr dyddorol arall ar " frwydr y canrifoedd." '' Tybiwch eich bod yn cychwyn o Gaergybi ar hyd yr Holyhead Hoad i Lundain. Yn awr, wrth gychwyn o Gaergybi, byddai yn rhaid i chwi deithio mültir cyn y gwelech y gurreg fìlltir number one, a byddai yn rhaid teithio dwy fìlltir cyn y caech y garreg fìlltir number tico, ac felly ymlaen hyd nes y gwelech y garreg fìlltir number cant (100),—yn awr, oni fyddai yn rhaid i chwi fod wedi teithio can milltir cyn dyfod at y garreg fìlltir number 100? Yn awr, wedi pasio y garreg fìlltir number 100, pa un ai cerdded y fìlltir olaf o'r cant cyntaf, ai y fìlltir gyntaf o'r ail gant y byddech chwi? " O'r dechreu hyd y garreg fìlltir gyntaf, yr ydych yn y fìlltir 1. Wedi cerdded ei chwarter, yr ydych wedi cerdded chwarter y tìlltir 1. Yr un fath gyda'r ail a'r ganfed. Fel mai 1 yw enw y fìlltir gyntaf, felly 100 yw enw yr olaf. 1 yw blwyddyn gyntaf bywyd, 100 yw canfed flwyddyn hen ŵr. Y mae 1 ar ddiwedd milítir, i ddangos ei bod wedi ei gorffen, a'r un fath 100 ? Pe rhennid y fìlltir, iel y rhennir blwyddyn, rhannau o 1 fuasai rhannau'r filltir gyntaf, rhannau o 100 fuasai rhannau'r fìlltir olaf. Y" mae son am allu swynwyr yn ystraeon Gwlad Hud,—y mae dynion a chwn ac adar yno yn medru gwneyd pethau pell uwchlaw gallu dyn. Ond coried plant fod yn eu byd gwirioneddol hwy alluoedd cryfach na dim sydd yng Ngwlad Hud. Dyma rai,—cariad, amynedd, caredigrwydd, dewrder, maddeu- garwch. Medr y rhain oll wneyd gwyrthiau. Yn y rhifyn diweddaf dywedais fod y Prifathraw T. C. Edwards ar ganol ysgrifennu bywgraffiad ei dad pan fu farw. Yr wyf yn deall fod y bywgraffiad wedi ei orffen, a'.i fod yn gyfan yn llaw y cyhoeddwr,—Mr. Isaac Foulkes, Lerpwl,—er ys rhai misoedd. Bydd yn dda gan lawer glywed hyn, fel yr oedd yn dda gennyf innau glywed. Yr wyf yn ysgrifennu y nodiad hwn rhag, yn ddiarwybod, i mi beri i neb feddwl ei fod, wrth dderbyn rhifynnau y gwaith, yn tybied ei fod yn derbyn rhifynnau gwaith anghyflawn.