Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. I. AWST, 1892. Rhef. 8. IIANES CYMRU VIII. YB HEN ALLOE. YWEDAIS y byddai yr hen Gymry'n aberthu dynion i'w duwiau. Y mae llawer hanesydd yn gwadu hyn, gan dybied na ddylid dweyd y gwir am ein tadau os bydd yn taflu anfri arnynt. Ond rhaid i mi ddweyd y gwir wrthych, heb gelu dim. Neithiwr yr oeddwn yn cerdded ar hyd ffordd yng Nghymru, a gwelwn ddarnau o frethyn llosgedig, ac ambell dusw o wellt ar hanner losgi, hyd ochrau'r ffordd. "Beth ydyw y rhain ?" meddwn wrth gyfaill o'r ardal oedd yn cerdded gyda mi. " O," meddai yntau, " yr oedd yma etholiad yr wythnos ddiweddaf, ac ol y plant drwg yn llosgi hwnnw gollodd y dydd ydyw'r darnau hyn." "Llosgi hwnnw gollodd y dydd," meddwn innau, "ydych chwi ddim yn dweyd eu bod wedi llosgi dyn yn fyw?" " Nac ydwyf," ebe yntau, " ond Uosgi dyn gwellt yr oeddynt. Hynny ydyw, yr oeddynt wedi gwneyd ei lun o wellt, a Uosgasant hwnnw yn nyfnder y nos." le, ìneddyliwn innau, pe buasai'r gŵr hwnnw'n byw yn yr hen amser, buasent wedi ei losgi'n fyw. A pheth rhyfedd ydyw fod aberthu dynion eto'n bod, er na aberthir erbyn hyn ond dynion gwellt. Yn yr hen àmser, wedi i'r frwydr fyned drosodd, aberthid