Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. R ddechreu canrif newydd, yn lle dweyd dim am ein nod, rhoddaf ddau bennill o fysg rhai anfonwyd i mi,— Hoff Gymru'r Plant, fisolyn pur, Mae d'enw'n perarogli, Tra yn eneinio llwybrau'r tir Yr wyt â'th genadwri; Bron esgyn 'rwyt i fryn dy nod Dros risiau clôd i fyny, A mynn y plant mai ti gaiff fod | Ar hen aelwydydd Cymru. 'Rwyf yn dy ganfod, coelia fi, Ynghadair bri yn eistedd, A'r oesau yn dy wisgo di A choron o anrhydedd ; Ystyria'n ddwys y geiriau hyn A chadw dy gymeriad, Nes daw pob mynydd, bro, a bryn Yn wyn dan dy ddylanwad. Trtforris. Thomas John. Y mae arnaf ofn mai pell ydym o wneyd yr hyn amcanwn ato, ond y mae ein hamcan yn ucheliawn, yn ddigon uchel i alw am bob egni er mwyn ei gyrraedd. Hoffwn alw sylw'r plant, ar ddechreu caurif fel hyu, at Cymru hefyd. Amcan y misolyn hwnnw yw dysgu hanes Cymru, deffro meddwl Cymru, a helpu addysg Cymru. Yr wyf yn meddwl y dylai pob bachgen a geneth ieuanc feddylgar ei dderbyn, a chadw ei rifynnau i'w rhwymo, fel y byddo ei gyfrolau yn athrawon mebyd ac yn gymdeithion bywyd. Y mae ei ugeinfed gyfrol yn dechreu gyda'r mis cyntaf hwn o'r ugeinfed ganrif. Ynddo y mae erthyglau gan R. Morgan ar flodau a gloewod byw, a chan Dr. Walter Williams ar fywyd ein llynnoedd Uonydd, —pethau newydd yn llenyddiaeth Cymru. Ceir ynddo ystoriau a rhamantau gan ysgrifenwyr goreu ein gwlad. Adroddir hanes gwledydd pell gan Gymry welodd eu rhyfeddodau. Adroddir hanes Cymru, ei chrefydd a'i haddysg, gan rai sy'n ei wybod oreu. Clywir cân beirdd goreu y gaurif ynddo. Y mae ei ddaríuniau yn waith yr arlunwyr Cymreig goreu ac enwocaf. Nid o ran mai fi yw ei olygydd yr wyf yn ei ganmol; ond y mae gennyf gred yn ei ysgrifenwyr ac yn ei ueges. Trwyddo ceisir cael meddylwyr goreu Cymru i goethi a magu meddwl yr oes sy'n dod. Y llyfr newydd yn y gyfres chwe cheiniog gyhoeddir gan Hughes o Wrecsam yw"Dylanwad Addysg Uwchraddol ar ddaUadau ac ymarferiadau crefyddol Cymru," gan y Parch G. Hartwell Jones, M.A., rheithor Nutfield. Y mae'n Uawn o feddyliau ac awgrymiadau gwerthfawr iawn. Ymysg llyfrau ereill ar fy mwrdd y mae '' Lecrons Elémentaires de Grammaire Bretonne" (Saint-Brieuc) ; " Hanes Crefydd yn Llangernyw, &c," gan Glan Collen (R. E. Jones, Conwy, 1/-) ; Auerchiad i gymdeithas Bethesda, Ffestiniog, í?au y Parch. E. 0. í)avies, B, Sc. ; Uawer o raglenni eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol. Daw gair am danynt cyn hir. Byddaf yn ddiolchgar iawû i bawb fedr gael darllenwyr newyddion trwy ddaugos iddynt rifyn cynta'r fiwyddyn.