Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. RTH dderbyn rhifyn Mai, gwelwch fy mod wedi ei wneyd yn Uawn o hanes plant, adar, a blodau. Adeg gwanwyn a blodau yw yn awr, ond adeg addewid am ffrwyth addfed cynhaliol. Adeg gwanwyn, ac adeg y plant, ydyw ar hanes Cymru : ond wedi yr holl aberthu er mwyn yr ysgolion yn nhymor hau, daw haf gogoneddus a chyn- hauaf toreithiog i ran Cymru. Yr wyf yn tynnu'n helaeth ar ysgrifau R. Morgan, yr ysgrif- ennwr goreu ar brydferthwch bywyd y wig a welodd Cymru eto, yn hen rifynnau Cymru. Hoffwn fedru ennyn dyddordeb y plant yn rhyfeddodau natur,—rhai y medr y tlotaf eu gweled yn ddigost, a'r lleiaf ei amgyffredion eu deall heb ysgol ddrudfawr. Yn y wig, yn y meusydd, yn y llynnoedd, yn y môr, y mae pethau mor dlws ac mor ryfedd a dim fedrodd dychymyg dyn ei greu. Pe medrwn agor eich llygaid ar bob peth sydd o'ch amgylch, byddai hynny yr un peth a rhoddi bydoedd. newydd yn anrheg i chwi. Gwn am fechgyn a genethod, sy'n meddu digon o foddion y byd, ond yn methu dyfeisio pa fodd i fwynhau eu hunain. Y maent yn dlodion druenus yng nghanol llawnder. Gwn am rai ereill, a elwir yn dlawd, sy'n mwynhau cyfoeth Duw o'u hamgylch. Y mae llygaid y rhai hyn wedi eu hagor, ac nis gallant byth fod yn dlodion mwy. Yn rhifyn Cymru am Ebrill y mae erthyglau meithion, llawn darluniau. Y mae R. Morgan yn ein cymeryd i'r wig, ac yn dangos inni bethau tra dyddorol yn ein hymyl,—y gelynen a'i chymeriad, ac fel y gwna y fronfraith ei nyth. Cymer y Parch. D. Lloyd Jones ni i hen fynwent y creigiau, a dywed am y bodau rhyfedd fu ac y sydd yn tramwyo'r moroedd. Cawn olwg lawn ar rai o wŷr enwog Cymru hefyd, gyda darluniau campus ohonynt; cipolygon ar hanes Cymru,—caer Rufeinig y Gelligaer, mynachlog Gistercaidd Ystrad Fflur; caneuon gan feirdd telynegol goreu Cymru. Y mae " Odlau Cân" Mr. R. Bryan, y bardd mwyn o Farchwiel, ar fynd i'r wasg. Tri a chwech fydd pris y gyfrol. Os oes rhywun am ei meddu anfoned at olygydd Cymru'r Pìant ar unwaith, neu bydd yn rhy hwyr. Nid wyf yn rhoddi fawr ar gerddoriaeth i'r plant ond tôn bob mis. Y mae'r t'erddor mor dda a phwrpasol, ac mor rad,—dim ond dwy geiniog. Byddaf yn ceisio rhoddi un erthygl i bobl mewn oed ymhob rhifyn. Yn hwn ceir y bennod gyntaf o hanes gwir mam Gymreig. Dylai fod un erthygl i fechgyn a genethod meddylgar geisio ei deall hefyd. Ceir un ar hanes y ddaear; nid oedd le i ddarlun.