Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. BYDD yn dda gan y plant weled fod Cyrnol Joaes wedi ail ddechreu ysgrif- ennu ei hauesiou difyr am Dde Amerig. Cofier mai gwir, ac nid ffug, yw pob gair a ddywed. Pan gefais haues Sam Slic yr oedd y Bouwr Lewis Joues, uu o sylfaenwyr y Wladfa, yn digwvdd bod ar ymweliad â mi. Chwarddai yn galonaog wrth i mi ail adrodd hanes Sam Slic. Àdwaenai ef yn dda, a dywed ei fod wedi gweled amryw o'i hen gyíeillion yn amgueddfeydd y Llywodraeth Arianin. Gofynna i Moreao weithiau pwy yw yr Indiaid wêl yn yr amguedd- feydd, a hysbysir iddo enwau hen frodoriou adwaenid yn dda yn y Wladfa. Y mae'r Archentiaid wedi bod yn greulon iawn wrth yr hen frodoriou hyn, mor creulon nes y cashànt enw Cristion. Ond y ddiod feddwol yw eu gelyn mwyaf marwol, hi sydd yu eu difa fel cenedl oddiar wyneb y ddaear. Yr ydych yn gwybod yn dda am R. Eurog Jones; ychydig sydd wedi ysgrif- ennu pethau yn gymaint wrth eich bodd. Pregethwr Wesleyaidd ieuanc ydyw, ac y mae newydd adael Cymru i gymeryd gofal Eglwys Goffadwriathol Coke, yn Utica. Cyn myned cyhoeddodd íyfr bychan o ganeuon syml a swynol, dan yr enw " Blodau i Blant " Mae'r cynllun yn newydd, a'r meddwl yn newydd; bydd y llyfr yn gaffaeliad gwerthfawr i aelwydydd a chyfarfodydd. Ceir ef am saith geiniog o gartref yr awdwr, sef oddiwrth John Jones, Glau y Gors, Llanddauiel, ger y Gaerwen, sir Fon. I bobl ieuainc sy'n hoffi meddwl, y mae llyfr y Parch. D. Adams ar Ddad- blygiad yng "nghyfres yr ageinfed gaurif" yn llyfr amheuthyn. Rhaid i lawer un wrth ymdrech wrth ei ddarllen, a thipyn o ofal calon am y newydd a'r hen. Y mae Ab Owen, Llanuwchllyn, wedi cyhoeddi argraffiad prydferth o waith prif fardd serch y Cymry, sef Dafydd ab Gwilym. Y mae'n eynnwys 112 tudalen, a'u hymylau uchaf wedi eu goreuro, ac amryw ddarluniau ; y mae wedi ei rwymo mewn llian cryf. Ei bris yw swllt; gyda'r post swllt a cheiniog a dimai. Pris " Breuddwyd Rhonabwy " yw ceiniog ; ceiniog a dimau gyda'r post. Y ffordd rhataf yw i blant pob ardal anfon am gopiau gyda'u gilydd, er mwyn arbed cost. Ab Owen, Llanuwchllyn, yw'r cyhoeddwr. C yn y daw y rhifyn b wn atoch byddis wedi dadorchuddio cofgolofn Daniel Owen yn y Wyddgrug. Y mae rhai ohonoch yn cofio fel y byddai Daniel Owen yn ysgrifenuu ystoriau i Gymru'r Plant. Bydd yn dda gennych glywed fod pumpunt wedi mynd at y golofn oddiwrth y golygydd a rhai o'r darllenwyr. Os hoffai neb anfon eto, anfoned at Thomas Parry, Ysw., Llys Ifor, y Wyddgrug. Y rhifín nesaf fydd rhifyn olaf y flwyddyu. Cewch glywed rhywbeth am rifynnau'r flwyddyn nesaf. A helpwch chwi trwy ofyn i ereill ddod yn dderbynwyr?