Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. YMRAES. Dengys y cyfìeithiad lawer o allu. Ond gwell gennyf waith gwreiddiol na chyfieithiad. Ac heblaw hynny, y mae hawl- fraint ar y dernyn, ac nis gellir cyhoeddi cyfieithiad ohono heb ganiatad yr awdwr a'r cyhoeddwr. " Boneddigaidd " yw'r gair Cymraeg goreu am courteous. Pertheos. Yr oedd rhifyn Ebrill wedi ei gysodi cyn i'r Uinell " Briall mwyn Ebrill a Mai" fy nghyrraedd. Er mai y pymthegfed yw'r dyddiad sydd ar rifynnau Cymru, ceisir eu cyhoeddi erbyn y cyntaf o bob mis, a byddant wedi eu cysodi ymbell cyn hynny. Diolch. Mae nodiadau ar fywyd adar yn ddyddorol ac yn dderbyniol iawn. Boy. Nid oes yr un cylchgrawn a hawl i alw ei hun yn "unig gylchgrawn cenhedlaethol Cymru." Dywed y Cambrian Americanaidd mai Cymru yw ein hunig gylchgrawn hollol anenwadol. Gwelaf mai Cymru a Cymru'r Plakt yw yr unig gylehgronau yr anoga Pwyllgor Addyeg Morgannwg yr athrawon a'r plant i'w darllen. Ap Asaph. Watcyn Wyn yw awdwr bron yr oll o'r penhillion telyn newyddion genir yn yr Eisteddfodau. Y maent yn ymddangos, yn gasgliad cyflawn, yn rhifynnau Cymru o fis i fìs y flwyddyn hon. J. Yr wyf wedi methu cael lle i luaws o ganeuon tlysion i'r gwanwyn a'i adar a'i ilodau. Cedwir hwy yn ofalus at y gwanwyn nesaf. B. o'r Bachglas. Yn 1812 y rhowd yr agerlong gyntaf i fynd ym Mhrydain, ar y Clyde; yn 1819 y croesodd agerlong y Werydd gyntaf, mewn 26 diwrnod; yn 1829 y dyfeisiodd y Stephensons yr agerbeiriant symudol; yn 1830 y daeth y peiriant dyrnu cyntaf. Yn 1830 hefyd y daeth y lucifer matches i gymeryd lle y garreg dân. Derbyniais ddau lyfr i alw sylw atynt o Lyfrfa y Methodistiaid ; sef " Gwers- lyfr ar Efengyl Luc, xii.—xxiv.," gan y Parch. J. Jones, Hebron ,2c: ; a llawlyfr manylach gan y Parch. Llewelyn Edwards, M.A. (1/6), ar yr un maes Uafur. Y mae'r ddau lyfr yn deilwng iawn o'r gyfres o esboniadau buddiol, cynhwysfawr, ac awgrymiadol hyn. W. J. 1. Anaml iawn y byddaf yn rhoddi lle i ryddiaith cyfieithedig o'r Saesneg. Gwell gennyf ystormu am hen seiadau a phregethwyr Cymru na rhai o gyfnodolion Lloegr. 2. Y mae ambell ystori bron ag awgrymu ei fod yn aurhydedd i Grewr y bydoedd os ymostwng rhyw frenin bach, neu dduc druan, i gydnabod ei fod; a'i fod yn anrhydedd i'r Beibl os dywed rhyw uchelwr diwybod ei fod yn wir. Byddaf yn ymgroesi rhag rhoddi hanesion felly o flaen y plant. 3. Y mae hynny o le fedraf roddi i hanesion crefyddol yn cael ei roddi i'r Diwygiad. Cyhoeddir " Gwreichion y Diwygiadau," sef yr emynnau, yn swyddfa Cymru.