Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. BOB. 1. Gwell gen irmau weld aderyn ar y goeden nag mewn cawell. Y mae ganddo edyn, a dengys hynny mai yn rhydd y dylai fod. 2. Nid wyf yn meddwl fod " gormod o wybodaeth a rhy fach o ddifyrrwch" yn Cymru'r Plant. Cewch hanes y Tylwyth Teg a hanes adar, yn ogystal ag esboniad ar graig a seren. Ai> Rbedyw. 1. Byddai'n dda gennyf pe'r ysgrifen- nech ar y testynau a nodwch. Bu ertbygl dda iawn ar John W. Jones yn un o rifynnau diweddaf Cymru. 2. Digon prin y mae'n iawn cyhoeddi darnau goreu pregeth neu anerchiad ; hwyrach y bydd y pregethwr am eu cyhoeddi ei hun ryw dro. A oe8 heddwch P Y mae gennych ddau gŵyn, hef (1) fod beirdd cadeiriol yn ymgynnyg am wobrau o hanner coron mewn eisteddfodau lleol, (2) fod pwyllgor yn mynnu pris tocyn oddiar y bardd, druan. tlawd. Oni welwch gysylltiad rhwng y ddau gamwri ? H. G. Ni wna'r englyn y tro; yr ydych yn aberthu gramadeg, os nad synwyr, i gynghanedd. J. J. H. Cyhoeddwyd " Barddoniaeth Cynddelw," dan olygiaeth Ioan Arfon, gyda thraethawd Spinther, yn 1877, gan H. Humphreys, Caernarfon. Wedi marw Mr. Humphreys, gwerthwyd ei lyfrau i wahanol lyfrwerthwyr. I gael llyfrau fel hyn, anfonwch at W. H. Eoberts, 10, Cecil Court, Charing Cross Eoad, London ; neu David Roberts, Llan Ffestiniog ; neu Goronwy Williams, Rhuthyn ; neu F. Crowe, Y Farcbnad, Gwrecsam. Bydd yn dda gennyf roi cyfeiriadau rhai ereill yn gwerthu llyfrau ail law, os anfonir hwy imi. M. Ni feddaf rifynnau o gyfrolau cyntaf Cymru a Cymru'r Plant, ac nis gwn lle y gellir eu cael. E. E. Mae llawer yn medru ysgrifennu llaw ferr yn Gymraeg. Y mae E. P. Grifflths, 20, Seddon Eoad, Garston, Lirerpool, newydd gychwyn cylchgrawn bychan llaw ferr. J. Y mae llawer o gyhoeddiadau da i blant yng Nghymru, a'r oll yn enwadol. Y mae miloedd o deuluoedd yn derbyn cylchgrawn eu henwad, a Cymru'r Plant hefyd. Fellj, ni ddylai yr un pethau fod yn y ddau. Weithiau, byddaf yn argraffu dernyn, ac ambell dro yn cerfio darlun ; ond, cyn iddynt ymddangos, gwelaf hwynt mewn cyhoeddiad arall. Pery hyn drafferth a chost i mi. Os byddwch yn anfon cyfansoddiad, yn enwedig cofiant, i gyhoeddiad arall, peidiwch a'i anfon i minnau hefyd. Anfoner pob tôn i L. J. Eoberts, Ysw., M.A.. Tegfan, Ehyl.