Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. LTJN. Nid wyf yn tybio y cewch esgidiau aur a chap coch a chleddyf i fynd drwy frwydr bywyd. Ond medrwch gael pethau a wna i chwi fod yn fwy o arwr, sef diwydrwydd, gonestrwydd, a charedigrwydd/ Cewch haues ynidrech ryfeddach nag ymdrech cawr; a rhaid i chwi fynd trwyddi. Cewch hanesgwisg, hefyd,a'ch gwnangoncwerwr. Darllennwch lythyr Paul at yr Ephesiaid, vi. 11—18. 1. Catkins yw yr enw Saesneg ar flodau rhai coed. " Cywion gwyddau" yw yr enw Cymraeg mewn rhai Ueoedd. Yr wyf yn credu fod blodau melynion yr helygen, beth bynnag, yn debycach i gyw gwydd,— peth bychan melyn tlws,-nag i gath fach. Y mae "cywion gwyddau" ar y ffynid- wydden, y fedwen, a'r dderwen hefyd. 2. Y mae amrywiaeth mawr mewn rhisgl prennau,—rhai ag aiuryw gotiau, megis yr helygen ; rhai yn llyfn, megis y ffynidwydden ; rhai'n arw ac agenog, megis. y dderwen Bob. Nid yng Nghymru'n unig, nac ar fynyddoedd, y ceir cornchwiglod. Ceir eu nythod bob Ebrill ar y gweirgloddiau a'r porfeydd,—nis gellir eu galw yn weunydd a rhosdiroedd, sydd ar waelod dyffryn Tafwys. W. M. Yr wyf yn ceisio cyfuno yr ystori â gwybodaeth. Ceisir symbylu dychymyg plentyn trwy y naill, ac agor llwybrau newydd mewn gwybodaeth iddo trwy y llall. Cofiaf am yr awgrym i roddi hanes prif feirdd Cymru. Yr wyf yn amcanu at roddi ambell erthygl sy'n gofyn tipyn o ymdrech meddwl i'w deall. I blant, yn bennaf, y cyhoeddir y cyhoeddiad; felly dylai pob tudalen fod mor glir ag y medr ìaith ei wneyd. Ond ni fynnwn er dim ei wneyd yn blentynaidd. Nid magu diogi meddwl yw fy amcan, ond symbylu i ymdrech meddwl. Soffi. 1. Y mae'n arw gennyf fod y gweinidog yn pregethu mor hir, fel na wyddech o'r blaen '' gymaint o rannau o'r corff sydd fedr fiino a gwynio.'' 2. Bydd yn llawer haws i chwi lwyddo yn eich arholiad os peidiwch " ffago " ar y Sul. Y mae ynni meddwl mor bwysig mewn arholiad a chof llawn. Collwch yr ynni os gweithiwch ar y Sul; gorffwys y Sabbath yw trysor pennaf y gwir efrydydd. March fab Meirchion. 1. Byddaf yn darllen " Awdl y Flwyddyn" Eben Fardd, nid yn unig bob haf, ond bob hydref a gaeaf a gwanwyn hefyd. Y mae yn y gyfrol newydd o waith Eben Fardd yng Nghyfres y Fil; cewch hi am 1/6 oddiwrth R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy. 2. Pope yw awdwr y llinell,— " The fur that warms a monarch warmed a bear."