Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ATBIN A EOB. Y mae stori fel yr un ofynnwch am daniyn deebreu yn y rhiíyn hwn. " Cit" yw enw'r aiwres a'r stori. Bob yn dipyn dowch i adnatod Poh hefyd, a Dic, a Benni, a Modryb Nel, a Bobert Bees, a Sue, a phlant Mrs. Pennant Jones. Tom ap J. Dywedasoch yn yr ysgol, heb feddwl, fod cylch (cirde) perffaith yn cael ei wneyd o un linell syth. Chwarddodd yr athraw, a gofynnodd i chwi pa fodd y gallai cylch fod yn llmell syíh. Yna ail feddyliodd, a dywedodd fod eich ateb yn iawn am un math o gylch. Gofynnwch i mi prun ydyw. Dyna ydyw,—cylch a'i ganolbwynt mewn pellter anherfynol (centre at mfinity). Hynny ydyw, cylch a phellter diderfyn rhwng ei ganolbwynt (centre) a'i amgant (cir- cumference). Selog. Ni fynnwn er dim ddolurio teimlad neb trwy roddi sen i'w grefydd. Y mae'r cylchgrawn hẁn yn mynd i aelwydydd o bob math,—ceidwadol a rhydd- frydig, eglwysig ac ymneillduol. Nid yw plant yn llai selog na rhai mewn oed ; gwybodaeth a phrofìad sy'n tyneru sel. Hen Ymahfehoi . Gellir gwneyd llawer i gryfhau gwladgarwch ac i ennyn chwilfrydedd plant ysgol. Er esiampl, ca plant yr Almaen flwch penselau, ac arno beisiau arfau pob rhan o'r fam-wlad, yn holl ogoniant eu haur a'u.harian a'u hasur a'u coch. A llawenydd 1 bob plentyn fydd gweld arwydd ei wlad ei hun,— Prwsia, Saxony, Bavaria, Baden, Hesse, Brunswick, Hamburg, Lubeck, &c. Byddai blychau fel hyn, ac arwyddion y Cynghorau Sir arnynt, yn addysg ac yn drysor i'r plant. Sali Jontîs. Oddiwrth athraw enwog yn Bhydychen y daw y gair " spoonerism." Cyfnewid rhai o lythrennau dau air feddylir wrth hyn, megis troi " two bags and a rug " i " two bugs and a rag," neu " Arab las ei bais " 1 " Arab bas ei lais." ilae rhai yn dueddol iawn i wneyd y gwallau hyn. J. Byddaf yn gwneyd fy ngorau i ateb llythyrau, ac i ymohebu ynghylch erthyglau. Ond, yn aml iawn, byddaf yn methu ateb am fisoedd. Cofied. fy nghyfeillion caredig nad oes gennyf * sgrifennydd, ac nad oes gennyf ond amser penodol at ymohebu Buasai'n bleser mawr i mi, pe yn bosibl, fedru ateb pob llythyr ar wahan. Nis gallaf addaw anfon y?grifau'n ol. A.R. 1. Yn ol pob tebyg, ni fydd ysgol yng Nghymru toc na ddysgir Cymraeg ynddi. Bhaid wrth beth amynedd. 2. Bum yn Chwarel y Penmaen Mawr, a gofynnai y bechgyn yno yr un cwestiwn,—"A ydyw Hanes y Ddaear wedi darfod ? " Na, daw y bennod nesaf yn rhifyn Tachwedd os bydd y darluniau'n barod.