Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. **r LEX. Dyma i chwi bedair llinell i un o'r un enw a cliwi o waith Dewi "Wyn,— " Am un Elen mae 'nolur, A_m hon i'm calon mae cur; Elen wen o lân wyneb, Yw f'eilun i o flaen neb !" Gwelais y llinellau hyn yn cael eu rhoddi fel esiampl o mor esmwyth y gall yr iaith Gymraeg swnio, pan y cwynir gan estroniaid ei bod yn arw, ac heb beroriaeth yn ei seiniau. Gwilym. Ydyw, mae'r astudiaeth yn un dyddorol. Feallai, gan mai brodor o Gaernarfon ydych, y bydd y nodiad yma am t ich tref enedigol yn ddifyrrwch i chwi. Deuais ar ei draws y dydd o'r blaen mewn llyfryn bychan, y " Cambrian Mirror," gyhoeddwyd yn 1843. Wedi rhifo rhagoriaethau y dref gyda brwdfrydedd, diwedda'r desgriflad gyda'r geiriau hyn,—" There are Berlin and other í'oreign houses, London shoemakers, drapers, hatters, and tailors, who furnish their customers with real bang-up Bond Street cuts, buckramed up in the highest style of close-fit perfection." Bachgen o'r Wlad. Lleuad Medi sydd yn cael ei galw yn " loer y cynhaeaf." Mae yn codi y mis hwn ar yr un adeg am rai nosweithiau, yn lle 50 munud yn ln\wrach bob nos fel arfer. Mae hyn i'w briodoli i'r ffaith mai dyma'r adeg pan mae'r dydd a'r nos o'r un hyd. Mae'r un petli yn digwydd i'r lleuad ym uiis Mawrth, a gelwir hi y mis hwnnw, " Lloer yr Heliwr." Chwtliwr hen bethau. Darn o arian yr Alban oedd batrbec, gwerth chwe iheiniog Ysgotaidd. Dywed rhai ei fod wedi cael yr enw oddiwrth feistr y bathdy yn yr Alban yn yr unfed ganrif a'r bymtheg,—Arglwydd Silliebawbee, fel y cafodd darn arall yr enw " bodwele " oddiwrth feistr arall o'r enw Bothwele. < 'nd dywed ereill am y gair " bawbee " ei fod yn dod o'r gair "baby'" am fod delw baban-frenin yr Albau, Iago'r VI., amo. Benni hach. Yr wyf yn credu y gwneiff yr hanes yma eich dyddori, gan eich bod uior hoff o " bethau byw." Dywedir y gellir gweld ym MLadison, yn yr Unol Dalaethau, y creadur bach hwnnw, y wiwer, yn rhedeg o amgylch y dref yn liollol ddiofn a dof. Xid oes neb yn cael gwneyd niwed i'r creaduriaid tlysion, 'tiniwed. Maent mor ddof fel y dont i fwyta o'ch llaw chwi. Nid ydynt i'w ^weld yn y gerddi yn unig, ond crwydrant o gylch y dref; ac nid ydyw yn beth dieithr gweld un yn rhedeg ar draws yr heol o flaen cerbyd trydan, ac yn dianc allan o berygl yn hollol ddigynnwrf. Wil. Y mae pob dyn mawr yn meddwl y dylai plentyn ufuddhau. Yr oedd ich arwr, Duc Wellington, yn gyrru cerbyd unwaith. Cysgodd. Cymerodd ei fab yr aweuau o'i law, rhag i'r cerbyd fynd i'r ffos, a dymchwel. Pan ddeffrodd ' Duc, ceryddodd ei fab mewn dull difrifol iawn am ymyrryd à busnes pobl ereill. Oylasech aros," meddai, " nes i mi ofyn i chwi."