Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ■M- OWBI BACH. Mae gwneyd toys yn waith pnr bwysig, mwy pwysig feallai, Lowri, na ddarfu i chwi erioed ddychmygu. Mae yna dref o'r enw Sonneberg yn ymyl coedwig Thuringia, yn yr hon yn unig y mae pedair mil o bobl yn ennill eu bywoliaeth drwy wneyd teççanau i blant bach chware â hwynt. Feallai mai yn y fan honno y gwnawd eich doli chwi. A wyddoch chwi, nid ydynt yn gwneyd doliau cyfa yn unig ; ond maent yn gwneyd pennau a breichiau a choesau, ac yn eu danfon i Loegr. Ac uwchben ambell i siop teganau yn y trefydd mawr, gellwch weld y geiriau " Dolls' Hospital." Ac os bydd i'ch doli hoff gyfarfod â damwain, raid i chwi ond ei danfon yno, a daw yn ol i chwi yn hollol iach. Diamynedd. Ddaru chwi ystyried erioed nad oes modd gwneyd dim byd o werth heb baratoad manwl'r Os ydych am fod yn athrawes dda, mae yn rhaid i chwi gymeryd amser i baratoi ar gyfer eich gwaith, gan gofìo bob amser yr ymadrodd yma,—" Mae yn ofynnol bod yn feddiannol ar gryn lawer o Avybodaeth cyn y gellir cyfrannu ychydig." Holwh. Yr wyf yn credu i mi weld yn rywle mai Aaron Hill ysgrifennodd y rhigwm Saesneg am y dalen poethion ar ffenestr yn yr Alban. Yrr wyf yn ei roddi yn llawn i chwi, gan greâu'n llwyr ynddo,— " Tender handed touch a nettle, It will sting you for your pain; Grasp it as a man of mettle, Soft as silk it will remain." Pwy a'i cyfleitha i ni 'r Peredcr. Mae eich llythyr parthed yr ymadrodd " Good bjre, God be with you," yn dra dyddorol. Gwelais syiw ar yr ymadrodd Ffrancaeg, " Adieu," a fydd, feallai, o ddyddordeb i chwi. Ei ffurf priodol ydyw "A Dieu," a golyga " Yr wyf yn eich gadael, ond yr wyf yn eich cyüwyno i Dduw." Onid yw yn brydferth ? Fel y sylwch, nid oes gennym yn y Gyinraeg ymadrodd cyffelyb i'r ddau uchod. " Da bo'ch " sydd yn dod agosaf ato. Ond beth am y gair " hiraeth?'' A eilwch roddi gair Saesneg i mi yn cyfleu ei ystyr Uawn ? Elinor. Planhigyn yn tyfu yng ngwledydd y dwyrain ydyw Sesame. Y mae yn dra gwerthfawr oherwydd yr olew geir o'i hadau, a'r hwn sydd yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd gan frodorion y gwledydd hynny. Os ydych yn gydnabyddus â'r hen drysor hwnnw, yr " Arabian Xights," gwyddoch ystyr afall y gair. Maih. Feallai y bydd y sylw isod yn rhyw fath o eglurhad i chwi. Dywedir nad oedd gosod croes yn lle enw wrth weithred neu ysgrif o bwys yn gyfyngedig yn yr hen oesoedd i'r rhai heb allu ysgrifennu. YTr oedd y groes yn arwydd; ac yr oedd yr un fyddaí yn ei wneyd yn dangos ei fod yn Gristion, a'i fod yn rhwymo ei huu wrth ei ffydd, ac nid yn unig wrth ei anrhydedd, fel y gwnelai y pagan a'r digred, fod yr hyn oedd uwchben y groes yn wir. Mae adgof am hyn i'w weld o hyd yn yr ymadrodd " Seinio enw."