Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ATHERINE. Fel y dywedwch, buasai astudio gwisgoedd gwahanol ganrifoedd yn ddyddorol; y fath droadau mae ffasiwn wedi gymeryd er dyddiau Gwilym I. dywedwch. Gyda golwg ar y ddau fotwm fyddant yn osod tu ol i got dyn, nid er addurno y got y gosodwyd hwy felly; ond yr oedd godreu y got mor laes, a'r ffyrdd mor fudr, fel y byddent yn eodi lapedi y got ac yn eu botymu ar y ddau fotwm yr holwch yn eu cylch, ac felly yr oeddynt allan o'r ffordd. Dyna'r eglurhad welais dro ar y botymau. Gwilym. Ai meddwl yr ydych am Godfrey o Bouillon ? Yr oedd ef yn un o ryfelwyr y Groes, a'r mwyaf enwog o holl arweinwyr yr ymgyrch. Am dano ef y dywedir yr ystori yr holwch am ei manylion. Dywedir ei fod yn hynod am ei ostyngeiddrwydd, a'i fod wedi gwrthod bod yn frenin ar Jerusalem am na fynnai wisgo coron aur yn y lle yr oedd ei Arglwydd wedi gwisgo coron ddrain. Idwal. Yn yr Almaen gelwir y friallen yn fiodeuyn yr allwedd, a'r llygaid y dydd yn fìodeuyn caws. Gwelwch nad ydyw'r olaf mor brydferth a'r enw y galwn ni ef wrtho. Chwiliwr Geiriau. Yr wyf finnau yn cymeryd cryn ddyddordeb yn eich hofî bwnc. Ie, rhyfedd, fel y dywedwch, ydyw hanes a hynt ambell i air. Feallai nad ydych yn gwybod am y troion byd fu ar y gair Saesneg gossip. Dywedir ei fod unwaith yn cael ei arfer am dad a mam fedydd. Y mae wedi ei wneyd i fyny o'r ddau air god a sib. Mae yr olaf yn golygu perthynas, ac felly, yn ol Eglwys Rufain, yr oedd y tad a'r fam fedydd yn dod, yn Nuw, i berthynas a'r plentyn dros yr hwn yr oeddynt yn sefyll. Gwyddoch ei ystyr yn awr, a mae hwnnw yn anhebyg iawn i'w ystyr cyntefig ; ond dywedir ei fod wedi dod i'w gyflwr presennol yn hollol naturiol. Yr oedd yn gyntaf yn S°lygu perthynas rhwng y plentyn a'r rhai oedd yn mynd yn gyfrifol am dano wrth yr allor ; yna daeth i arwyddo perthynas ac agosrwydd rhwng Pobl yn gyffredinol; ac wedyn i arwyddo y scwrs dibwys fuasai yn debyg o fod rhwng rhai yn y cysylltiad hwnnw. Ymholwr. Dyma fi'n rhoddi i chwi yr wyth linell gyntaf o gywydd Dafydd ab Gwilym i'r gwynt,-— Yr wybrwynt helynt hylaw, A gwrdd drwst, a ererdda draw; Gŵr oerias wyd, garw ei sain, Drud byd, heb droed, heb adain. Uthr yw. mor aruthr i'th roed, O bantri wybr heb untroed; A buaned y rhedi, Yr awr hon, dros y fron fry. Cewch y gweddill yn netholiad Mr. O. M. Edwards, yng Nghyfres y Fil.