Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. DRIS. Mae y dywediad " Al at Lloyds " yn golygu fod llong wedi ei hedrych a'i harchwilio gan un o arolygwyr cwmni yswiriol Lloyd, a'i bod yn y fath gyfìwr cadarn a diogel fel na raid i'r un a'i pia dalu cymaint am ei hyswirio a phe buasai heb fod mewn cyfiwr mor dda. Lloyd's ydyw'r cwmni mwyaf o'r fath yn y byd, ac i'w swyddfa hwy yn y Royal Exchange, yn Llundain, y daw pob newydd ynglŷn â llongau gyntaf o unman. Mae yn cymeryd yr enw oddiwrth un Mr. Lloyd, oedd yn cadw tŷ coffì yn Lombard Street, tua dau gan mlynedd yn ol, yr hwn dŷ oedd yn hofî gyrchfan marsiandwyr a meddian- wyr llongau Llundain. Gwen o'r Cwm. Cynnar, bore, neu brydlon ydyw ystyr y gair Saesneg " rathe." Nid ydyw yn cael ei arfer yn awr ond yn ei frurf gymharol, sef " rather." Defnyddir ef, fodd bynnag, ambell i dro gan ysgrifenwyr sydd yn ceisio efelychu hen ddulliau ; ac yn yr erthygl y cyfeiriwch ati, pan mae'r awdwr yn son am " rathe daisies," cyfeirio mae at lygaid y dydd sydd wedi blodeuo yn gynarach na'u hadeg gyfîredin i ymddangos. Os ydych yn gyfarwydd â gweithiau Milton, cofiwch am y llinell, " And the rathe primrose which forsaken dies." J.R. Un o adar y môr ydyw'r Wydd Solan. Gelwir hi hefyd yn Gannet, a chan y morwyr weithiau yn Booby. Nid oes ganddi fîroenau o gwbl; ond mae yn gallu eu hebgor yn hawdd, oherwydd mae ganddi y gallu yn fwy na'r un aderyn arall i anadlu drwy bob rhan o'i chorff bron, ac hefyd i lenwi ei hesgyrn âg awyr nes mae mor ysgafn fel mae yn gallu nofio ar y môr mwyaf tymhestlog, a chodi yn ddiogel ar frig y donn uchaf. Mae hefyd yn gallu hedeg yn dra chyfiym, a dywedir y bydd yn liedeg ugeiniau o filltiroedd i fan neilltuol i bysgota. Robin Wyn. Y modd y byddai y Sin-eater yn " bwyta pechod " dyn oedd drwy osod bara ar fynwes corfî marw, ac yna ei fwyta. Yr oedd drwy hynny, meddai ef, yn cymeryd iddo ei hun yr oll o'r pechodau gyfiawnwyd gan y marw yn ei oes. Yr oedd pobl yn honni gwneyd hyn i'w cael yn gyffredin ychydig dros gan mlynedd yn ol, a gelwid am eu gwasanaeth yn fynych, fel yr oeddynt yn gallu gwneyd bywoliaeth ar draul anwybodaeth ac ofergoeledd y werin. Ond er y gelwid am y Sin-eater i " fwyta pechod " y marw gan ei berthynasau, ac y telid iddo am hynny, eto, edrychid arno gyda ffieidd-dra, ac yr oedd yn ysgymunedig o gwmni dynion, ac edrychid arno yn debyg fel ar y cyfandir yr edrychid ar y crogwr cyhoeddus. Dywedir fod yr arferiad wedi codi oddi- wrth gam-esbonio yr adnod honno yn Hosea,—" Bwyta y maent bechod fy mhobl." Mam. Ni ddylid anfon plentyn i'r heol i gasglu at unrhyw achos, pa mor dda bynnag. Da gennyf weld fod yr Ysgrifennydd Cartrefol wedi gwahardd i'r un eneth dan un ar bymtheg, ac i bob bachgen dan bedair ar ddeg, ddal blychau a chasglu hyd heolydd Llundain. Dylai rhieni ofalu fod trefydd yn dilyn esiampl y brif ddinas.