Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ydych yn cofio y scwrs am eiriau fu gennym ar y tudalen hwn, beth amser yn ol, a bod y gair " hedge " wedi ei roddi fel gair y byddai yn ddyddorol cael gwybod y gwahanol eiriau ddefn- yddir am dano drwy Gymru. Derbyniais y geiriau canlynol. Geilw " Cymro " o sir Gaer- fyrddin ef yn " glawdd." Dywed Evan R. Parry, o Senghenydd, yn y De, mai " perth " a ddywedir yno am dano. " Un o'r Gogledd " a ddywed mai " gwrych " ydyw'r enw, ond mae " Bachgen o'r Gogledd," drachefn, yn dweyd mai " clawdd " arferir. " Cymraes " o sir Drefaldwyn a enfyn y gair dieithr " shittin." O'r Saesneg setting y daeth hwn. Yr wyf yn dymuno diolch i'r gohebwyr hyn am fod fwyned ag anfon y geiriau uchod. Tybed fod ychwaneg o eiriau ar lafar gwlad am y gair hwn ? Byddai yn ddyddorol, yn nesaf, gael y gwahanol eiriau ddefnyddir am " girl." Johnnie'r Wern. Wel, Johnnie, nid wyf fi yn meddwl fod cyfiawni y gorchwyl achwynwch gymaint yn ei erbyn yn " ddarostyngedig i'ch dynol- iaeth," chwedl chwithau. Ond, wrth gwrs, barn merch ydyw'r uchod. Beth feddyliech o'r rhestr a ganlyn o'r pethau dylai bachgen wneyd ? Deuais o hyd i'r rhestr mewn hen lyfr, a gwelwch fod eich câs orchwyl arni. " Yr hyn ddylai baohgen ddysgtj wneyd." " Gadael llonydd i ysmygu. Bod yn garedig wrth greaduriaid pedwar-troediog. Bod yn wrol a diofn. Ymorol bob nos am danwydd erbyn y bore. Bod yn fwyn wrth ei chwiorydd bach. Cau drws heb wneyd trwst. Gwnio botwm ar ddilledyn, a thrwsio hosan. Mynd ar neges yn ddirwgnach ac heb oedi. Golchi'r Uestri, a gwneyd ei wely pan fydd raid. Gwneyd ei hun yn barod i fynd i'r ysgol heb gynhorthwy ei fam a'i chwiorydd." Beth feddyhwch o'r rhestr ? Mae arnaf ofn y dirmygwch rai o'r pethau y " dylai bachgen ddysgu." Ond yr wyf fi yn eu hedmygu yn fawr, ac yr wyf yn credu y gwnaifî eich mam yr un modd. Mair. Fel y tybiwch, nid gair Cymraeg ydyw blanced,—gwrthban sydd gywir. Am darddiad y gair blanced, os edrychwch y geiriadur Saesneg, cewch yn y fan honno ei fod yn dod o'r gair Ffrancaeg " blanc ; " ond mae gwrth- bannau heb fod yn wyn. Mae tarddiad arall yn cael ei roddi i'r gair, sef mai gŵr o'r enw John Blanlcet a ddaeth a'r blanced gjmtaf i Loegr, ryw dro yn y bymthegfed ganrif.