Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT, A'R RHAI SYDD YN MEDDWL AM DANYNT. ATHBAW. Yr wyf yn hollol o'r un farn a chwi na ddylid dysgu plant yn yr ysgol i chwarau rhyfel. Dylid dysgu pob plentyn i garu rhyddid ac i ddysgu gwerth hunan aberth. Ond peth arall yw ennyn y cariad afìach at gashau a lladd. Bryfdir. Diolch. Yr oeddwn wedi meddwl cael un o'r ddau ddarn i'r rhifyn hwn; ond, er wedi eu cysodi, methwyd eu fìitio. Yn y nesaf. J. G. E. Y gân yn rhy brudd i blant. Eobert. Gwell gennyf frawd sydd yn gwneyd daioni, er ei fod yn dangos tipyn arno ei hun, na'r brawd sy'n hollol ddiddaioni, ac yn beirniadu ereill dan ei anadl. Bob y Waen. Y mae gwybodaeth am Hans Andersen yn erthygl Mr. Darlington ar " Lenyddiaeth y Gogledd" yn Cymru Ionawr. Un o Lerpwl. Diolch. Yn nesaf at Ffestiniog, yr wyf wedi cael Lerpwl y lle y caf fwyaf o gefnogaeth gyda phob anturiaeth íenyddol. Ddeng mlynedd yn ol cyhoeddais yn Cymru ramant Mrs. 01iver Jones, "Y Fun o Eithin Fynydd." Enillodd symlder clir y rhamant honno sylw cyffredinol iawn, gwnaeth lawer i dynnu meddwl pobl ieuainc at Dafydd ab Gwilym a'i amseroedd, a gwnaeth i lawer obeithio y cai Mrs. 01iver Jones fyw i ddehongli ychwaneg ar hanes y natur ddynol. Ond bu'r awdures garuaidd a gwylaidd farw'n ieuanc iawn. Trwy garedigrwydd pwyllgor llenyddol Capel y Bedydd- wyr, Birkenhead, yr wyf yn medru rhoi rhamant arall o'i gwaith, ar destyn agosach atom, i Gymru. Ysgrifennwyd "Bertie" tua deng mlynedd yn ol; yn union ar ol " Y Fun o Eithin Fynydd" yn ol pob tebyg. Wrth ddarllen y nodyn ar glawr y rhifyn diweddaf, canodd W. I. L. fel y canlyn. Anfonodd ddarlun hefyd, ond ni ddaeth mewn pryd i'w gerfio. CYMRU'R PLÄNT mewn Dillad Newy. Ffrindie bach, 'rwyf wedi dod 'Ewyf 'nawr yn grwtyn deug mlwydd Yr ail dro 'nawr eleni, Yn od o gryf a iachus, [oed, A gweyd y gwir, 'rwy'n teimlo'n grand A gallaf ddweyd fy neges fach Mewn pâr o ddillad newy ; Yn glir a rhwydd ombeidus; Addawodd Nwncl Owen bach Derbyniwch fì i'ch tai bob un Y cawn hwynt ddechre'r flwyddyn, Sy'n leico cân a stoii, Ond ffaelodd Huws y teiliwr ddod,— A gyda fì mae'r llunie pert,— Ehyw anlwc gyda'r brethyn. Mor bert a'r dillad newy.